Thema dywyll Thema golau

Edwin Poots – y ffwndamentalydd pragmataidd

erthygl-mehefin-2021-2232-1134 erthygl-mehefin-2021-2232-1134
O fewn deuddydd i’r sibrydion cyntaf ddod i’r amlwg ynglŷn â’r bleidlais diffyg hyder ynddi, roedd Arlene Foster wedi cyhoeddi ei hymddiswyddiad fel arweinydd y DUP a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon. Ar ôl cystadleuaeth fewnol (y tro cyntaf i’r DUP gynnal y fath beth, sydd ynddo’i hun yn arwyddocaol), dewiswyd Edwin Poots yn arweinydd newydd. O drwch blewyn yr enillodd Poots (sydd hefyd yn arwyddocaol). Mae’n amlwg fod y DUP wedi ei rhannu’n ddwy – rhwng yr adain ffwndamentalaidd a’r adain fwy cymedrol sy’n credu y bydd ffwndamentaliaeth yn costio mwy o bleidleisiau nag y byddai’n eu diogelu neu’n eu denu’n ôl. Ffarmwr ydi Edwin Poots. Mae o’n aelod o’r garfan draddodiadol, efengylaidd, Paisley-aidd o’r DUP i’r carn. Mae o’n credu mai dim ond 4,000 o flynyddoedd oed ydi’r Ddaear, ac mae o wedi gwneud sawl datganiad yn erbyn priodas hoyw, a hawl pobl hoyw i fabwysiadu plant. Fe wrthwynebodd Gytundeb Heddwch Belffast, ac mae o’n groch ei wrthwynebiad i’r Protocol Brexit.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2021-2231-1133

Ymladd dros yr ‘Hawl i Fyw Adra’

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2021-2234-1135

ABC dyn busnes – Annibyniaeth, Brexit a ‘Cymr-entri’