Thema dywyll Thema golau

Effaith y pandemig ar y stafell ddosbarth

Ystafell ddosbarth - gwag o blant Ystafell ddosbarth - gwag o blant
Awgrym gan Gyngor Sir Powys am ffordd o arbed arian a glywais un diwrnod ym mis Tachwedd a ddeffrodd atgof am stori o Sir Gaerfyrddin yn Ebrill. Bryd hynny cymerodd ysgolion uwchradd Sir Gâr gam anarferol iawn wrth yrru llythyr ar y cyd at holl rieni’r sir yn tynnu sylw at ddirywiad amlwg yn ymddygiad disgyblion, a chynnydd mewn ymddygiad bygythiol a sarhaus tuag at oedolion a chyd-ddisgyblion. Rŵan, mae’n hollol arferol i ysgol yrru llythyr at rieni disgyblion unigol yn cwyno am ymddygiad eu plant, ac yn eithaf cyffredin i ysgol unigol lythyru â’r holl rieni yn tynnu sylw at gamymddygiad, ond mae’n gwbl eithriadol i nifer sylweddol o ysgolion yrru’r un llythyr beirniadol at yr holl rieni. Mae’n glir, felly, fod y sefyllfa’n un gyffredin sy’n trosgynnu gwahaniaethau mewn dosbarth cymdeithasol a chefndir, a hynny ar draws sir fawr ac amrywiol ei hardaloedd. Ac o’r hyn a glywaf yma yn y gogledd, a’r hyn a ddywed undebau’r athrawon, nid yng Nghaerfyrddin yn unig y mae problem.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Y ferch dawel yn edrych ar ei thad yn gadael

Barod am yr Oscars

Ymlaen >
Glôb o faneri gwledydd y byd

Newyddion Tramor – rhyfeloedd cartref a gwasg ddiffygiol