Thema dywyll Thema golau

‘Eich stori chi yw ein stori ni’

erthygl-mehefin-2020-2101-1013 erthygl-mehefin-2020-2101-1013
Y tu allan i dref fechan Midleton yn Swydd Corc mae cerflun wedi ei lunio o ddur gloyw, ar ffurf cylch o blu sy’n cynrychioli penwisg cenhedloedd a llwythau brodorol America (‘Indiaid’ y ffilmiau cowboi). Mae’r cerflun trawiadol ym Mharc Ballic yn dathlu’r berthynas annisgwyl rhwng pobl Iwerddon a phobl cenedl y Choctaw yn Oklahoma, perthynas arbennig sy’n mynd yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac sydd wedi dod i’r amlwg unwaith eto yn sgil pla Covid-19. Mae’n stori i godi calon. Yn 1847 fe glywodd y Choctaw am y Newyn Mawr a oedd yn lladd cannoedd o filoedd o Wyddelod – ac er eu bod yn bobl dlawd iawn eu hunain, ac yn dioddef o bob math o broblemau gan gynnwys newyn, fe aethon nhw ati i godi arian, gan lwyddo i gasglu $170 i brynu bwyd i’w anfon dros y môr i Iwerddon. Yn y dyddiau hynny roedd hwn yn swm enfawr, ac roedd hi’n weithred hynod.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2020-2100-1012

Croesawu Senedd ond dim Cyfiawnder eto

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2020-2102-1014

Y gwasanaeth iechyd ac arian elusen