Thema dywyll Thema golau

Ein lluniaeth a’n llawenydd

Brecwast yn Llanrwst Brecwast yn Llanrwst
Mae gwledd yn ein haros ar ddechrau mis Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. A thra bydd nifer yn canu am drindod ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ Y Cyrff, rhaid hefyd ystyried ‘Brecwast, Cinio a Swper’ i borthi’n cyrff ninnau. Teithiais ledled y fro yn gynharach yr haf hwn yn hel syniadau am lefydd bwyta yn y sir. A lle well i gychwyn na chanolbwynt y Brifwyl – tref farchnad ddymunol Llanrwst. Pr’un ai’n teithio o’r gorllewin, y gogledd, y dwyrain neu’r de, bydd y bont fawr a briodolwyd (yn anghywir efallai) i Inigo Jones yn groesffordd amlwg i Eisteddfodwyr. Ar lan orllewinol yr afon mae tŷ te Tu Hwnt i’r Bont yn denu ymwelwyr rif y gwlith ers blynyddoedd mawr. Oedwch yno am baned, cacen de neu gaws pob. Dafliad carreg i ffwrdd mae gwesty’r Eryrod a chaffi Contessa ar Sgwâr Ancaster. Cewch yn Contessa frecwast o dôst ac wyau a stwnsh afocado, neu ewch am espresso i gaffi La Barrica yng nghysgod tŵr y cloc. Yn nes at faes yr Eisteddfod, ar gaeau Plas Tirion a Chilcennus, mae Oriel Ffin y Parc – caffi godidog ac oriel gelf wych.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Pont Lanwrst

Tro o amgylch Nant Conwy

Ymlaen >
Traeth Glas, gan Lesley Birch

'Croesi Traethau'