Thema dywyll Thema golau

Eisteddfodau bychain

Eisteddfod fach Ceidio. Dau o’r gloch y bore, a waliau’r hen gapel yn chwys diferol dan sang y cystadlu. Dyma un o atgofion melysaf fy mhlentyndod. Perthynai rhyw hud i chwys y waliau rheiny. Hud sy’n prysur sychu, erbyn heddiw.

Heb os, bu’r eisteddfod fach yng Nghymru yn grud celfyddyd, ac yn rhan ganolog o wead ein diwylliant ers cenedlaethau. Bu’n llwyfan gwerthfawr i fagu talent ac yn gyfrwng i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc ym myd cerddorol a llenyddol y genedl. Fodd bynnag, brwydr barhaol a wyneba llawer o’r eisteddfodau rhain bellach. Dyfodol cwbl ansicr sydd o flaen llawer ohonynt. Nid yw’r dirywiad hwn yn rhywbeth newydd chwaith. Mae’n hen, hen bryder. Pryder, er mawr cywilydd, sy’n gwaethygu wrth i lygaid y genedl dosturio’n deimladwy drosto. Y mae perygl gwirioneddol y bydd yr eisteddfod fach yn diflannu yn gyfan gwbl, oni bai y gwelir diweddaru sylweddol ac ailwampio ar ei delwedd hen ffasiwn sy’n gymaint rhan o’i chyfansoddiad.

Beth felly allai fod yn gyfrifol am y dirywiad? Prin fod yn rhaid crybwyll dylanwad ymwthiol y diwylliant Eingl-Americanaidd ar Gymru. Dyma ffactor brawychus o real, ac un y trwytha nifer helaeth ohonom ni Gymry ynddo’n ddyddiol. Heb os, mae’r diwylliant treiddgar hwn yn her enbyd i draddodiadau Cymreig, megis yr eisteddfod fach. Mentra rhai ddatgan yr edwina Cymreictod wrth yr awr yn wyneb y bygythiad i’r hen draddodiad hwn. Efallai mai gorliwio fyddai llwyr gytuno â’r sylw hwn. Fodd bynnag, credaf fod crafanc di-ildio’r dylanwad Eingl-Americanaidd amlycaf ar feddylfryd y genhedlaeth ifanc.

Y mae newidiadau technolegol parhaol yn arwydd clir nad oes dim bellach yn aros yn ei unfan. Y pryder mwyaf sydd gen i yw mai mygu hen draddodiadau lleol yng Nghymru a wnaiff y diwylliant gormesol hwn, oni bai yr ysgytwir seiliau rhai eisteddfodau. Rhaid dychwelyd at ffurfiau sylfaenol, gan bwysleisio’r angen i geisio denu’r ifainc yn ôl. Beth am geisio symud gyda’r oes yn hytrach na chicio sodlau yn rhychau ddoe? Yn hytrach na thamaid o hysbysiad neu ganlyniad eisteddfodol sych a ffurfiol mewn papur lleol, tybed faint o bwyllgorau sydd wedi ystyried ceisio defnyddio gwefannau megis facebook i greu argraff ar yr ifainc? Byddai’n gyfrwng modern delfrydol i ennyn diddordeb, i hysbysebu, i ddiweddaru newyddion yn gyson ac i bostio lluniau, negeseuon a fideos o berfformiadau. I’r un perwyl gallai pobl ifanc gyfarfod a thrafod testunau cyd-gystadleuwyr/ffrindiau ar-lein. Byddai hefyd yn amgenach dewis i sawl eisteddfod na all ddibynnu ar ddefod y ‘postio testunau’ i bedwar ban – ac yn llawer rhatach! Gallai eisteddfodau bychain gydweithio ac adeiladu rhwydwaith a allai gynyddu’r diddordeb a denu mwy o gynulleidfa ar yr un gwynt. Yn anad dim byddai’n gyfrwng hynod drawiadol ar gyfer diweddaru delwedd hen ffasiwn eisteddfodau bach. Dyma un o’r offerynnau marchnata grymusaf sydd gennym heddiw ac mae ei esgeuluso yn ddim llai na hoelen arall yn arch yr eisteddfodau bach.

Hen, hen ddadl arall yw a ddylid cynnal yr eisteddfodau ar Nos Wener a Nos Sadwrn? Crea’r penwythnosau hyn rwyg cymdeithasol yn aml rhwng yr ieuenctid a ddymuna gymdeithasu â ffrindiau a’r rheiny a ddymuna fynychu’r eisteddfod. Mae llawer o’r to ifanc yn mwynhau cystadlu, yn sicr, ond efallai ei bod yn bwysig cofio bod cymdeithasu yn rhan gwbl normal o fod yn ifanc yn ogystal. Hyfdra mewn difrif yw disgwyl i’r ifainc ddewis y naill dros y llall. Ond credaf y gellir, ac y dylid ceisio, cyrraedd cyfaddawd. Efallai y byddai modd i’r eisteddfodau bach ennill tir petaen nhw’n gorffen am 9 neu 10 y nos? Nid cystadlu brwd bob amser yw’r rheswm am iddyn nhw ymestyn hyd yr oriau mân. Yn amlach na pheidio mae arddull undonog hen gyflwynwyr yn ddiflasach na phaent yn sychu, a dyma sy’n golygu bod yr anthem yn cael ei chanu am ddau neu dri y bore! Y mae arddull clós rhai cyflwynwyr yn rhywbeth i’w ganmol. Ond mae llithoedd diflas hen ffasiwn rhai eraill yn fwrn, ac yn llethu eisteddfodau a ddylai fod yn fwrlwm o gystadlu bywiog. Efallai yr ymddengys yn fater distadl, ond fel un a fu’n brwydro cwsg yn yr oriau mân ar sawl achlysur yn ystod fy mhlentyndod, credaf y gallai penderfyniad fel hyn benderfynu parhad neu dranc yr eisteddfodau bach.

Ni ellir chwaith esgeuluso’r datblygiad amlwg a fu yn nulliau hyfforddi pobl ifanc. Yn hytrach na derbyn gwersi gan gymydog yng ngwaelod y stryd (athrawon sydd, yn draddodiadol, wedi pwysleisio pwysigrwydd eisteddfodau bach), heidia plant heddiw i ganolfannau ac ysgolion perfformio megis Canolfan Gerdd William Mathias ac Ysgol Glanaethwy. Yn sicr, mae’r ysgolion rhain yn gaffaeliad amhrisiadwy i gelfyddyd yng Nghymru, ac yn rhan ganolog o’r sîn genedlaethol ehangach. Ond efallai y gellir cymell a darbwyllo’r bobl ifanc a fynycha’r ysgolion rhain o werth yr eisteddfodau bach yn ogystal â’r eisteddfodau cenedlaethol a fynychant.

Y mae diffyg nawdd yn un arall o brif broblemau’r eisteddfod fach yng Nghymru ac yn rhywbeth yr hefra sawl pwyllgor yn gyson yn ei gylch. Ac, yn sicr, mae’n sefyllfa ddiflas y gallwn ymhelaethu’n hirwyntog arni. Ond yn hytrach na grwgnach yn ei gylch efallai mai mwy buddiol fyddai trafod ffyrdd i ailwampio rhai ffurfiau gwobrwyo, heb orfod ceisio rhagor o gyllid. Er yr hoffai rhai Cymry traddodiadol gredu mai ‘egwyddor cystadlu’ a ‘derbyn beirniadaeth adeiladol’ yw nodwedd fwyaf deniadol yr eisteddfod i bobl ifanc, mae’n dra thebygol heddiw fod cymhelliant ariannol yn ffactor eithaf pwysig. Cefais i fy magu i werthfawrogi’r linell ‘egwyddorol’ nad oedd yn rhoi gormod o bwyslais ar yr ariannol. Er hynny, fe gefais fy synnu’n ddiweddar pan welais wobrau blynyddoedd saith, wyth a naw yn Eisteddfod Gadeiriol Treffynnon. Roedd y cyntaf yn yr Unawd Piano – cystadleuaeth ddethol, a oedd yn nodi bod rhaid i’r cystadleuwyr feddu ar Radd 3 neu uwch! – yn cael £4 a thlws, yr ail £3 a’r trydydd £2! Gwobrau cywilyddus o bitw mewn gwirionedd. Yr un oedd yr achos yng nghystadleuaeth y Gân Werin, y Llefaru a’r Unawd Offerynnol. Siawns nad ydi pwyllgor yr eisteddfod yn deall bod hanner awr o wers biano yn costio rhwng saith a deg punt bellach?

Mae’n debyg fod modd cwestiynu gwobrau’r to hyn hefyd. Onid yw bri ennill cystadleuaeth y Gadair yn ddigon o wobr yn ei hun? A oes angen pumdeg punt o wobr? Mae gwobrau yr un mor swmpus yng Nghystadleuaeth y Prif Adroddiad a’r Her Unawd. Yr eironi yw mai oedolion yw’r prif gystadleuwyr, ac eithrio ambell gystadleuydd yn eu hugeiniau cynnar. Oni fyddai’r gwobrau hyn yn llawer mwy defnyddiol i blant a phobl ifanc sy’n meithrin eu talent gydag un llygad ar ddatblygu gyrfa? Mater bychan fyddai ad-drefnu’r strwythur wobrwyo, a chredaf y byddai ffrwyth yr eisteddfodau rhain lawer cyfoethocach o’r herwydd.

Efallai bod fy ymdriniaeth o’r testun yn ymddangos braidd yn eofn, ond nid ymddiheuraf am hynny. Rwy’n gwbl ymwybodol o ddirywiad yr eisteddfodau bach ac wedi gweld y dystiolaeth â’m llygaid fy hun. Wedi’r cyfan, nid yw’n cymryd athrylith i weld bod eisteddfodau bychain yn parhau i goleddu agweddau sydd wedi eu seilio ar atgofion o rhyw orffennol aur. Gyda niferoedd y cystadleuwyr yn lleihau’n flynyddol, amhosib bron fyddai cyfiawnhau coroni eisteddfodau bach yn grud celfyddyd fodern, a byddai’n sarhad ar fawredd eisteddfodau’r gorffennol yn ogystal. Y tristwch rhyfedd yw nad oes chwys ar waliau llawer i eisteddfod bach yng Nghymru bellach. Ond efallai mai trefnwyr yr eisteddfodau bach ddylai fod yn chwysu, wrth chwilio am ffordd o ail-ddarganfod bwrlwm y dyddiau a fu. Mae’r addewid yn dal yno, ond mae angen deffroad!

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

'Steddfod yn y ddinas '78

Ymlaen >

Hanner Groeges yng Nghaerdydd