Mae’n rhaid cyfaddef bod yr Americanwyr yn feistri ar adrodd stori ar ffilm. Ac mae tair ffilm ddiweddar, oedd yn rhan o sbloet yr Oscars, yn profi hynny: Django Unchained (Quentin Tarantino), Zero Dark Thirty (Kathryn Bigelow) a Lincoln (Spielberg). Mae’r tair ffilm yn wahanol o ran eu natur ond yn ymdrin â straeon sy’n deillio o hanes America mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Cyfuniad yw Django o Roots a’r math o ffilm gowboi a elwir yn ‘Spaghetti Western’. Mae Zero... yn olrhain y cyrch am Osama Bin Laden i’w ddiweddglo gwaedlyd. A drama yw Lincoln am ymdrechion yr Arlywydd i ddiwygio cyfansoddiad UDA er mwyn gwahardd caethwasiaeth – ond nid i roi statws cyfartal i’r du a’r gwyn. Ac i fod yn deg â’r awduron/cyfarwyddwyr mae’r ffilmiau hyn yn caniatáu rhyw fesur o gymhlethdod moesol yn y straeon. Ond mae stamp Hollywood ar bob un...
Ddegawd neu ddau yn ôl mi geisiodd Ffrainc atal y llifeiriant ffilmiau o America oedd yn boddi eu diwydiant cynhenid. Bu ymdrech i osod cwotâu ar sinemâu Ewrop i sicrhau y byddai canran o’r ffilmiau a ddangosid yn gorfod dod o wledydd yr UE. Bu’r ymateb yn chwyrn. Daeth cenhadaeth fasnach o’r UDA i ymladd yn erbyn y fath heresi, gyda chefnogaeth frwd Prydain. A diddorol oedd nodi mai arweinydd y genhadaeth oedd un o gyn-benaethiaid y CIA. Maen nhw’n deall gwerth eu diwylliant yn America. Wrth gwrs, mae gwerth ariannol y ffilmiau yn enfawr ond mae gwerth cenhadol y ffilmiau (a’r diwydiant teledu) o ran lledaenu gwerthoedd America hyd yn oed yn bwysicach. Mae geiriau George Orwell ‘All Art is propaganda’ yn llythrennol wir yn yr achos hwn.
Yn Westerns y dyddiau a fu roedd hi’n hawdd gwybod pwy oedd y dynion da a phwy oedd y rhai drwg. John Wayne yn dda a dewr a’r Indiaid Cochion yn anwaraidd ac yn anfoesol. A phan aeth hi’n wleidyddol anghywir i bortreadu Indiaid Cochion felly, cafwyd heidiau o Fecsicaniaid anhysbys a chlapiog eu Saesneg. Ond yn y dyddiau soffistigedig hyn, thâl hynny ddim. A diolch i ffwndamentalwyr Islamaidd daeth ‘gelyn’ newydd fel manna o’r nef.
A dyna fan cychwyn Zero Dark Thirty. Unwaith eto, a bod yn deg, roedd Bin Laden yn ddyn drwg go iawn. Western hen ffasiwn ydi hon mewn gwisg filitaraidd newydd gyda’r holl uwch dechnoleg GPS/clustfeinio ddiweddaraf. Ac yn union fel yn yr hen ffilmiau, mae’r arwr(es) yn cael trafferth gyda phwysigion llwyd diddychymyg y lluoedd arfog. Ond pan ddywed yr arwres wrth filwr tua’r diwedd, ‘Go kill Bin Laden for me’, gwelwn ein bod yn ôl ym myd syml yr Arwr sy’n Herio Pawb ac yn Achub y Byd. Daw’r cymhlethdod moesol o’r ffaith (os yw’n ffaith) fod y cliw/gwybodaeth sy’n sail i ddarganfod Bin Laden yn deillio o boenydio annynol carcharor. Mae ein harwres yn dyst i’r arteithio ond mae’n deg dweud nad ydi hi’n cymryd rhan yn y cam-drin nac yn frwd drosto. Chware teg iddi. Diddorol, serch hynny, yw bod rhai gwleidyddion wedi ymosod ar y ffilm, nid am ddangos y poenydio, ond am awgrymu ei fod yn gweithio!
Caethwasiaeth ydi cefndir y ffilm Django Unchained, a rhyddhau’r caethweision ydi pwnc y ffilm Lincoln. Wrth gwrs Americanwyr gwyn ydi’r ‘gelyn’ yma, sy’n cymhlethu’r sefyllfa. Mae trais yn ffordd o fyw yn ffilmiau Tarantino wrth gwrs. Ond yma mae’r trais eithafol yn erbyn pobl dduon yn graffig a diarbed tra bod y gweddill yn arddull y comics a’r stribedi cartwn. Perchennog stad gotwm ydi’r dyn drwg (Leonardo DiCaprio yn ei elfen) heblaw bod ‘Dewyrth Tom’ o was yn ail da iddo. Ond gan fod Tarantino yn taflu winc at y gynulleidfa, a bod ei dafod yn ei foch yn ei ddull ôl-fodernaidd, mae’n anodd gwybod be mae o’n ei ddeud – os ydi o’n deud unrhyw beth.
Mae Lincoln yn haws i’w ‘deall’ ar un ystyr. Mae’r Arlywydd yn cael ei dynnu i bob cyfeiriad gan rai sydd am iddo fynd ymhellach na gwneud caethwasiaeth yn anghyfreithlon yn unig, ac eraill sydd am iddo roi terfyn ar y Rhyfel Cartref gwaedlyd a difaol yn gyntaf. Ac fel pob gwleidydd mae’n gorfod cyfaddawdu a dibynnu ar gefnogwyr anwadal sy’n aml yn dwp, yn ddiegwyddor, neu’n gyfuniad o’r ddau. A defnyddir dulliau diegwyddor i gael y maen i’r wal. Maen tyngedfennol serch hynny.
Mewn sawl ffordd mae’r ffilmiau hyn yn glyfar, yn dechnegol wych, ac yn caniatáu i ni gael cip ar fyd cymhleth a chymeriadau amlochrog a digon ffaeledig yn aml. Ond yn y pen draw mae’r tair yn emynau o fawl i America. Yn Zero Dark Thirty (fel yn Argo sy’n ffefryn am y ffilm orau yn yr Oscars) mae grym, gonestrwydd ac arwriaeth y milwyr yn cario’r dydd yn erbyn grymoedd y tywyllwch. Yn ffantasmagoria Tarantino mae’r arwr (du) o gaethwas a’i wraig ddel yn dianc yn ddianaf ar geffyl aur gan adael pawb arall o’u hôl (yn farw gan fwyaf). Yn Lincoln, hyd yn oed, er gwaetha’r tomennydd cyrff ar faes y gad a’r bargeinio diurddas, mae America, trwy groen ei dannedd, yn codi’n fuddugoliaethus ac yn gwneud yr hyn sy’n iawn. Dyna wir werth a gwir wers Hollywood.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

