Diolch i bawb ddaru gystadlu yng nghwis rhifyn Rhagfyr 2025 / Ionawr 2026
Rhoddwyd enwau pawb a lwyddodd i ateb pob cwestiwn yn gywir mewn het a’r enillydd a gafodd ei ddewis ar hap oedd Delyth Evans, Nantmor.
Llongyfarchiadau calonnog iddi ar ennill bocs o gawsiau Cymreig gwerth £75 gan y Welsh Cheese Company (www.welshcheesecompany.co.uk).
Gan fod cymaint o atebion wedi eu derbyn y tro hwn, nid yw gofod yn caniatáu inni gyhoeddi enwau pawb a lwyddodd i ateb pob cwestiwn yn gywir.
1 Darn o ba gêm fwrddsy’n cuddio dan y soffa?
Trivial Pursuit (t.47)
2 Faint o gyflenwad trydan y byd a lyncwyd gan Ganolfannau Data yn 2020?
1.5% (t.87)
3 Beth yw cerbyd y canwr gwlad crwydrol?
Chevvy pic-yp (t.84)
4 Pa anifail sy’n cynnig sylwebaeth ar fywyd wrth edrych dros y cwm?
Ebol (t.62)
5 Beth sy’n llenwi bwlch yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol?
Y gwaith celf Rhitta Gawr gan Anya Paintsil (t.34)
6 Tafod pwy sydd yn ei foch wrth weu stori o gwmpas traddodiad Cymreig?
Cefin Roberts (t.59)
7 Pregeth pwy oedd Cymunedoli Cariad?
Sel Williams (t.89)
8 Beth allai fod yn bwnc llosg adeg etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf?
Y stryd fawr (t.26)
9 Beth ddylai pob awdur creadigol o bob oed fod yn ymwybodol ohono?
Dyfodiad AI (t.30)
10 Pwy ddaru ddim cyrraedd ar gyfer y spaghetti bolognese a’r crymbl afal?
Criw rhaglen newyddion (t.27)
11 Pa brifysgol yng Nghymru sy’n rhan o’r Russell Group?
Prifysgol Caerdydd (t.20)
12 Beth yw enw cynhenid Ogwen Falls?
Rhaeadr y Benglog (t.6)
13 Beth sydd ar bob cenedl ei angen yn ôl y plât?
Lobsgows (t.54)
14 Ar diwlips pwy yr ymosododd Annette?
Marged (t.42)
15 Yn lle mae James Dean Bradfield yn canu yn Gymraeg am y tro cyntaf?
Ar Blas Melysa’r Mis, albwm Griff Lynch [neu enw’r gân] (t.41)
16 Pwy alwodd newid hinsawdd yn ‘con job’?
Donald Trump (t.19)
17 Perfformiad pwy oedd yn ‘agos at fod yn berffaith’?
Tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Gogledd Macedonia (t.32)
18 Pwy sy’n berchen ar ‘bendantrwydd tawel’?
Catherine Connolly, Arlywydd newydd Gweriniaeth Iwerddon (t.15)
19 Beth yw nod grŵp Cant i Gymru?
Plannu cant o eglwysi newydd yng Nghymru o fewn deng mlynedd (t.31)
20 Pwy oedd aelod cyntaf Plaid Cymru?
Mai Roberts (t.57)