Diolch i bawb ddaru gystadlu yng nghwis rhifyn Gorffennaf/Awst 2025.
Rhoddwyd enwau pawb a lwyddodd i ateb pob cwestiwn yn gywir mewn het a’r enillydd a gafodd ei ddewis ar hap oedd Marian Jones, Parc Muriau, Caernarfon.
Llongyfarchiadau calonnog iddi ar ennill Tocyn Llyfr £75.
Gan fod cymaint o atebion wedi eu derbyn y tro hwn, nid yw gofod yn caniatáu inni gyhoeddi enwau pawb a lwyddodd i ateb pob cwestiwn yn gywir.
1 Rhowch enw’r ddau adaregwr cysylltiedig â bro’r Eisteddfod.
Alun Llwyd (t.42) a Robert Richards (t.47).
2 Sawl pleidlais gafodd y Gwyrddion a’r SSP rhyngddynt?
973 (t.9).
3 Ar gyfer beth y casglwyd £565,000?
Cronfa gymorth Gresffordd, er mwyn lliniaru cyni’r teuluoedd a gollodd anwyliaid yn y drychineb (t.50).
4 Pwy fu’n hybu gyrfaoedd rhai fel Alun Hoddinott a Grace Williams?
Arwel Hughes (t. 53).
5 Pwy yw awdur Paid â Deud?
Mari Emlyn (hysbyseb ar y clawr cefn).
6 Sawl un gipiwyd ar gam yn 1980?
50 (t.82).
7 Lle mae Ysgol crank-coal?
Rhosllannerchrugog (t.36).
8 Pwy yw cerddor Cwm Elan?
Gareth Bonello (t.55).
9 Sut wnaeth Michelle ddathlu ei phen-blwydd?
Drwy gael cyfnod o therapi (t.23).
10 Pwy fu’n cydweithio gyda Caryl Lewis?
Carmen Saldaña (t.73).
11 Yn lle pwy y camodd Olwen Medi i’r adwy?
Christine Pritchard (t.21).
12 Faint fu farw o’r diciâu?
6 (t. 29).
13 Pwy oedd yn hawlio atebion wedi’r prawf?
Dafydd Elis Thomas yn dilyn Achos Ffrwydron Caerdydd yn 1983 (t.60).
14 Be gafwyd i’w fwyta ddeng mlynedd yn ôl?
Golwyth cig eidion (t.33).
15 Pwy oedd ofn colli ceiniog ar ôl 2016?
Llywodraeth Cymru (t.17).
16 Beth yw swydd Tash?
Gofalwr (t.85).
17 O lle dihangodd y fuwch?
Cefn y llwyfan (t.14).
18 Lle mae Qiang Sun yn gweithio?
Prifysgol Chicago (t.87).
19 Beth sy’n pwyso cymaint â lori?
Un o’r taflegrau atal (t.19).
20 Pwy aeth ar y trên i Abertawe?
Tecwyn Owen (t.83).