Thema dywyll Thema golau

Erdogan yn ôl eto yn ei balas

Dinas Istanbwl Dinas Istanbwl
‘Does neb wedi colli,’ meddai Erdogan wrth areithio yn y brifddinas Ankara wedi’r canlyniad. ‘Mae’r genedl gyfan o 85 miliwn wedi ennill.’ Ond y gwir ydi y byddai hanner y wlad yn anghytuno ag ef. Er gwaethaf hynny, o blith holl arweinwyr y byd, Erdogan sy’n gwybod orau sut i ennill – a sut i ddefnyddio pob arf gwleidyddol posib i sicrhau hynny. Roedd ennill etholiad arlywyddol ddiwedd Mai, a sicrhau mwyafrif seneddol bythefnos ynghynt, yn bluen fawr arall yng nghap gwleidydd mwyaf dylanwadol Twrci ers bron i ganrif. Yr etholiad i ddechrau: cafwyd pleidlais boblogaidd a ffafriodd Erdogan yn hytrach na’i wrthwynebydd Kemal Kilicdaroglu a oedd wedi ceisio asio chwe phlaid bur wahanol yn glymblaid i’w gefnogi. Canran fechan o 4% oedd yn gwahaniaethu’r ddwy ochr. Does dim dadl am y canlyniad, ond rhaid cofio bod llais ac wyneb Erdogan ym mhobman ar sianeli radio a theledu Twrci am wythnosau cyn yr etholiad. I’r gwrthwyneb, crafu am sylw yr oedd Kilicdaroglu gyda rhaglenni newyddion yn ei anwybyddu.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Llun Llwyfan y Maes, Eisteddfod 2022

Rheol Gymraeg yr Eisteddfod

Ymlaen >
Eluned Phillips yn cael ei hurddo fel enillydd y Goron, Eisteddfod Llangefni 1983

Ddeugain mlynedd yn ôl