Yr Ynys Las yw ynys fwya’r byd, a chyda tua 57,000 o drigolion hi hefyd yw’r ardal leiaf dwys ei phoblogaeth drwy’r byd. Go brin y byddai canlyniad yr etholiad ‘cenedlaethol’ a gynhaliwyd yno ar 11 Mawrth wedi denu llawer o sylw fel arfer. Yn sicr, nid y tu hwnt i’r ynys ei hunan a Denmarc.
Beth newidiodd hynny oedd sylwadau Donald Trump cyn y Nadolig, a’i farn fwy ffrwydrol fyth fis Ionawr, y dylai’r Unol Daleithiau reoli’r Ynys Las am resymau diogelwch ac oherwydd y mwynau prin sydd ar gael yno.
Fel Ynysoedd Ffaro ym Môr y Gogledd, mae’r Ynys Las yn rhan o Frenhiniaeth Denmarc. Felly y bu ers 1953, gan feddu bellach ar bwerau datganoledig mewn meysydd fel iechyd ac addysg a hefyd o ran trwyddedu mwyngloddio a defnydd o adnoddau naturiol. Yn y meysydd olaf hyn, mae ganddi fwy o bwerau na Chymru, ac fel Cymru tiriogaeth a wladychwyd ac a goloneiddiwyd yw Grønland, a hynny dros dair canrif yn hytrach nag wyth.
Llywodraeth Denmarc sy’n gyfrifol am bolisi tramor, amddiffyn a heddlua’r wlad. Daw grant blynyddol o Copenhagen (oddeutu £440 miliwn y llynedd) ac mae’n cyfateb i tua hanner cyllideb gyhoeddus yr ynys sy’n cynnal cyflogaeth bron i 13,000 o’r trigolion, cyfran sylweddol o’r 57,000 o bobl Inuit a Daniaid sy’n byw mewn oddeutu hanner cant o drefi a chymunedau bychain. Y tu allan i’r brifddinas Nuuk, does dim priffyrdd, a’r dull cyflymaf o deithio ydi gydag awyren, hofrennydd, cwch neu sled.
Heb y cymorth ariannol blynyddol o Ddenmarc byddai’n anodd i bobl yr Ynys Las fwynhau safon byw Llychlynnaidd gyda gwasanaethau addysg ac iechyd yn rhad ac am ddim – gwasanaethau angenrheidiol pan fo cymaint o’r cymunedau lleiaf yn anghysbell. Ac eto, yr alwad am annibyniaeth lawn oddi wrth Ddenmarc, a sylwadau bygythiol yr Arlywydd Trump, oedd prif feysydd trafod pump o’r chwech o bleidiau oedd yn ymgiprys am gefnogaeth y 40,000 o etholwyr sy’n byw yno.
Colli hanner ei chefnogaeth wnaeth Plaid yr Inuit, plaid adain chwith sydd hefyd o blaid annibyniaeth. Dyblu ei chefnogaeth fu hanes plaid Naleraq wrth ganfasio am refferendwm ar annibyniaeth, ond chafodd hi ddim digon o seddi i arwain trafodaethau i sefydlu llywodraeth glymbleidiol. Disgynnodd y dasg honno ar ysgwyddau plaid geidwadol y Democratiaid, sydd hefyd am weld annibyniaeth, ond rywbryd yn y dyfodol. Dadl y Democratiaid yw nad oes digon o gyfoeth, na gweithlu digon mawr nac economi ddigon cryf i fod yn hunangynhaliol ar hyn o bryd.
Ac yn ôl at Trump i gloi. Mae’i eiriau wedi cythruddo pobl yr ynys lawn cymaint â phobl Wcráin, Gaza – a Denmarc. Go brin y gwelwyd ‘diplomyddiaeth’ yn cael ei gyrru mor agored gan ariangarwch ers canrif, wrth i bolisi tramor America dros ddegawdau lawer gael ei droi heibio ac wrth i weinyddiaeth Trump ddinoethi beth yn union ydi perthynas Washington bellach gyda gwledydd a fu’n gyfeillgar ac yn gynghreiriaid ers bron i bedwar ugain mlynedd. Efallai’n wir fod datblygu mwynau’r Ynys Las yn tynnu dŵr o ddannedd buddsoddwyr Americanaidd a byddai hynny hefyd yn driw i egwyddorion MAGA drwy atal Ewrop, Rwsia a Tsieina rhag elwa yno.
Er holl gwynion yr Inuit am anghyfiawnder a hiliaeth Denmarc, byddai derbyn y ddoler a throi cefn ar y kroner, yn bur debyg o newid amgylchedd a safon byw pobl Kalaallit Nunaat er gwaeth am gyfnod go faith. Lleisiodd y darpar brif weinidog Jens-Frederik Nielsen ei amheuon mor groyw â’i ragflaenydd: ‘’Dan ni dim eisiau bod yn Americanwyr… ’dan ni ddim eisiau bod yn Ddaniaid. Pobol yr Ynys Las ydan ni.’
