Thema dywyll Thema golau

Ewch yn yr ysbryd i ben draw Llŷn

Yr olygfa o Uwchmynydd draw at Ynys Enlli Yr olygfa o Uwchmynydd draw at Ynys Enlli
Waeth o ba gyfeiriad y daethoch chi i Foduan eleni mi ddilynoch chi, neu mi groesoch chi Lwybrau’r Pererinion fwy nag unwaith. Wrth ddilyn y ffordd o Foduan tua Phen Draw Llŷn mi fydd hynny’n dyfnhau. Byddwch chi yn un o’r pererinion hynny, ac fe allwch ddilyn yn ôl traed y seintiau yn hwylus o un eglwys blwyf a’i ffynnon i’r llall. Maen nhw’n dal yno yng Nghae Ffynnon Gybi, Rhos Beuno, Gardd y Sant a Chae Eisteddfa, sef y cae hwnnw lle gorffwysai’r pererinion ger Eglwys Gwynhoedl yn Llangwnnadl ar eu ffordd i Enlli. Prin fod yna gae, ogof, cilfach na ffynnon heb fod ganddynt enw, chwedl, stori ac eglurhad y tu ôl iddynt. O fewn tafliad carreg i Faes y Steddfod mae ffermydd Cwningar, Pont y Gribyn, Maesoglan a Botacho, a does dim rhaid mynd ymhell i ganfod Cae Cadi Marchog, Cae Saith Llathen, Pant y Diogi, Talar Gwydda a Llain Gylfiniriaid. Yn ‘darnbachodir’ ar Instagram mae Morwen Jones yn cynnig blas inni o’r holl enwau sydd yn yr ardal, a hynny trwy gelf a cherdd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Bwyd Eifionydd a chwrw Llŷn a chastell Cricieth yn y cefndir

Pererindod fwyd a diod

Ymlaen >
Syr Keir Starmer

‘Y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer’