Thema dywyll Thema golau

Felly Llŷn ar derfyn dydd

'Goleuni', un o weithiau celf gwehyddu Elin Huws 'Goleuni', un o weithiau celf gwehyddu Elin Huws
Wrth gerdded i mewn i arddangosfa Elin Huws ym Mhlas Glyn-y-Weddw, yr hyn sy’n taro rhywun ar unwaith yw’r ffrwydrad o liw sydd yn ei gwaith, y gwehyddiadau tapestri yn ogystal â’r lluniadau. ‘Gorwelion’ yw enw’r arddangosfa. Tirwedd a morwedd cynefin yr artist a ysbrydolodd bob un o’r gweithiau. Mae Elin yn byw yn Llanbedrog, dafliad carreg o’r Plas, ond nid yno y bu’n byw erioed. A’i thad, Richard, yn swyddog yn Heddlu Gogledd Cymru, symudodd y teulu o le i le cyn dod i Lŷn. Bu athrawon Celf yn ddylanwad arni mewn sawl ysgol ond Hanes oedd y pwnc a ddewisodd pan aeth i Brifysgol Bangor, wedi iddi gael ysgoloriaeth ynddo. ‘Tymor arhosais i yno,’ meddai. ‘Oherwydd Celf oedd fy myd i.’ Aeth i weld Peter Prendergast, a chrefu arno i roi lle iddi ar y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai. ‘Mi weithiais i’n galed iawn yn ystod gweddill y flwyddyn honno, a rhywsut neu’i gilydd roeddwn i’n cael fy nhynnu i faes tecstiliau.’ Pa ryfedd hynny? Ys dywed pobl, ‘Mae o ynddyn nhw fel teulu.’

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Ymgyrchydd yn dal arwydd "I am pro-life", a Nicola Sturgeon

Hawl menywod i ddewis eu tynged

Ymlaen >
Albert Camus a chlawr 'Pla'

Cyfieithu clasur o nofel am bla