Thema dywyll Thema golau

Ferrari a Golf GTI

Felly os fydd y gamp ar ei hennill o gael Schumacher yn ôl, beth am y dyn ei hun? Ai camgymeriad yw ceisio ail-greu llwyddiant y gorffennol? Mae ganddo’r dalent heb os, a’r profiad, ac o ran ei oedran yn ddyn heini. Ac mae e wedi gwella’n gyfan gwbl o’r anaf i’w wddwg wnaeth ei rwystro rhag dychwelyd ar gyfer tymor 2009. Dyw e ddim yn gyfarwydd â’r Mercedes ond mi ddaw i’w adnabod, a does dim rheswm pan na all gystadlu â McLaren Lewis Hamilton a’r pencampwr presennol Jenson Button, Ferrari Alonso a Massa, a Red Bull Sebastian Vettel. Mae gan y gyrwyr hyn dipyn mwy i’w golli na Schumacher, a bydde ei goroni e am yr wythfed tro yn awgrymu nad yw’r genhedlaeth newydd yn deilwng o’i hystyried yn gyfartal â’r Almaenwr. Byddai colli, ar y llaw arall, yn tynnu dim oddi wrth lwyddiant anhygoel Schumacher yn y gorffennol. Yn wir, pan ddychwelodd Lance Armstrong i’r Tour de France llynedd a gorffen yn drydydd, bedair blynedd wedi iddo ennill y ras am y seithfed tro, mae’n deg dweud mai cynyddu wnaeth y parch bydeang tuag ato. Mae sawl rhinwedd yn gyffredin i’r ddau, ac ymroddiad a gwaith caled yn uchel iawn ar y rhestr. Ennill neu golli, mi ddylai fod yn hwyl gwylio. Ac i Fformiwla Un, dyna fydd yn bwysig. 

Yn y cyfamser, parhau mae’r aros am ddychweliad Gavin Henson i’w gamp yntau. Naw mis heb chwarae a dim sôn am ddychwelyd i’w ranbarth heb sôn am wisgo crys Cymru fyth eto. Wedi pedair blynedd o anafiadau fe ofynnodd Henson, fydd yn 29 mis yma, am ganiatâd gan y Gweilch i roi’r gorau iddi am ‘amser amhenodol’. Ro’dd hynny ym mis Awst y llynedd. Ers hynny mae Henson a’i bartner Charlotte Church, ynghyd â’u plant bach, i’w gweld yn amlar eu cwch ym marina Abertawe. Cwch o’r enw ‘Sketchy’. Gair addas i ddisgrifio’i fwriad ar gyfer y dyfodol efallai? Mi fydd hi’n anodd iawn iddo ddychwelyd wedi cyfnod mor hir mas o’r gêm. Ac mi fydd y ffaith ei fod wedi colli 3 stôn yn ôl pob sôn yn gwneud y dasg yn anos fyth. 

Y dyheu sy’n bwysig. Y sbarc. Mae’n amlwg fod hynny dal ym mol Schumacher. Os nad yw’r dyhead yno, does dim gobaith caneri y bydd yn llwyddo. Fe ddarllenais erthygl ddiddorol am Henson yn ddiweddar. Ac yntau’n dechrau ar ei yrfa yn nhîm cyntaf Abertawe ddegawd yn ôl, fe ofynnwyd i Henson a’i gyfoedion am eu gobeithion am y dyfodol. ‘Gyrfa broffesiynol dda’ meddai un. ‘Lle rheolaidd yn y tîm cyntaf’ meddai un arall. Roedd y mwyafrif yn dyheu am gael ennill ‘cap i Gymru’. Ateb Henson i’r cwestiwn? ‘Golf GTI’. Wel mae’n sifir bod ganddo ddigon o arian i brynu llond sied o’r rheini erbyn hyn. Fe ddangosodd gemau rhyngwladol yr Hydref fod Cymru’n colli’r sbarc greadigol y gall Henson ei thanio. Boed ffan o ‘Mr Church’ ai peidio, all neb wadu ei fod e, ar ei orau, yn un o’r canolwyr gorau yn y byd. Tase Henson ei hun ddim ond yn medru sylweddoli ei fod e’n gwastraffu talent eithriadol.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Degawd fy Mrawd wrth y Llyw

Ymlaen >

Colli Llenor a Symbylydd