Thema dywyll Thema golau

Ffarwel Crycymalix, Henffych Gwyddoniadix

Yna, eleni, daeth y newyddion fod Asterix yn ailymddangos. Gwych, meddwn. Mewn pryd i foddhau’r genhedlaeth nesaf. Disgwyliais innau weld ailgyhoeddi’r hen ffefrynnau, neu gyfieithiadau newydd o weddill y gyfres wreiddiol yn Ffrangeg René Goscinny. Ond nid felly. O’r tair cyfrol a gyhoeddwyd eisoes erbyn Eisteddfod Bro Morgannwg mae dwy stori wedi ymddangos o’r blaen, a dim ond un sy’n newydd i ni’r Cymry. Dwy stori, hynny yw, mewn cyfieithiad hollol newydd, a hynny gan y cyfieithydd gwreiddiol, Alun Ceri Jones. Dryslyd? Roedd gwaeth i ddod. Ni fyddai’r enwau cyfarwydd yn y cyfieithiadau newydd. Dim Odlgymix, dim Oedyraddewix! Dim gwersylloedd Cloclarum na Bolatenae. Rhaid fyddai ymchwilio i’r mater, ac, i dorri stori hir yn fyr, dyma beth a ddysgais.

Yn 1976 cyhoeddodd Gwasg y Dref Wen y cyntaf o wyth cyfieithiad gan Alun Jones o lyfrau Asterix yn y Gymraeg. Gyda threigl y blynyddoedd aethant allan o brint a breuddwydiai Alun am eu hailgyhoeddi. Yn 2005 sefydlodd o a’i frawd Dafydd gwmni Dalen, gyda’r bwriad o ailgyhoeddi llyfrau Asterix. Ailgyfieithwyd Tintin ganddynt (gw. Dafydd Jones, ‘Cymreigio Tintin’, Barn 551/2 Rhagfyr 2008/Ionawr 2009) a chyfieithwyd o’r newydd straeon stribed Lewsyn Lwcus, Llio!, Y Triawd Amser a chyfresi eraill o blith goreuon Ewrop, Gwlad Belg a Ffrainc yn arbennig. Ond gan Wasg y Dref Wen yr oedd hawlfraint cyfieithiadau Asterix o hyd, gan gynnwys enwau Cymraeg y cymeriadau. Erbyn hyn roedd eu llyfrau allan o gontract a’r hawliau Cymraeg yn rhydd. Roedd Hachette, y cyhoeddwyr Ffrengig, yn cefnogi ailgyhoeddi Asterix yn y Gymraeg, ond methodd y Dref Wen â dod i gytundeb gyda Dalen. Mae materion hawlfraint yn medru bod yn ddyrys ac mae hawlfraint ei hun megis wedi ei gerfio ar garreg. Doedd dim amdani, yn y diwedd, ond i Alun ailgyfieithu’r llyfrau, gan ailenwi’r cymeriadau, ac wele dair cyfrol gyntaf Asterix yn ymddangos erbyn Eisteddfod eleni. Ffarwel Crycymalix, henffych Gwyddoniadix.

Sut maen nhw’n cymharu â’r hen rai? (Anodd peidio gwneud hyn!) Y peth cyntaf i rywun sylwi arno yw’r lluniau  – maent yn llawer mwy lliwgar a deniadol. Cafodd arlunwaith 50 mlwydd oed Albert Uderzo ei ail-incio a’i ail-liwio gan y cyhoeddwyr Ffrengig ar gyfer yr 21g., gan ddangos graddliwiau (fel a geir mewn awyr las a chysgodion cynnil), a rhoi mwy o ddyfnder cyfoethog i’r lluniau lle’r oedd popeth gynt yn edrych yn fflat. O chwilio am enwau’r cymeriadau, daw’n amlwg fod yr un dyfeisgarwch geiriol ar waith yr eildro, felly rhowch groeso i Gwyddoniadix y derwydd, Perganiedix y bardd ansoniarus, a Pwyllpendefix pennaeth y llwyth.

Dyma ddechrau darllen. Buan y daw’n amlwg fod y doniolwch yn byrlymu, a Chymreictod naturiol y cymeriadau’n tywynnu drwy’r hiwmor. Mae hyn yn fwriadol gan Alun Jones, sy’n credu mewn creu cnewyllyn o gyfresi straeon stribed y gall y gynulleidfa Gymreig eu perchnogi fel rhan o’u llenyddiaeth eu hunain. Dadl y Ffrancwyr yw y dylid dangos y straeon yn eu cyd-destun gwreiddiol Ffrangeg, ond anghytuno â hyn wna Alun Jones. ‘Dydyn ni ddim,’ meddai, ‘yn genedl sydd am gael ein gweld yn copïo pethau o ddiwylliannau eraill; hoffwn feddwl amdanom ein hunain fel diwylliant cwbl unigryw.’ Felly, iddo fo, mae’n bwysig gosod ein stamp ein hunain ar gyfres fel Asterix, gan ddod â lefelau gwahanol o’n diwylliant i mewn i’r gwaith.

A lwyddodd o yn hyn o beth? Do, yn bendant, a hynny am yr ail waith, oherwydd mae’r ddeialog rhwng y cymeriadau’n dal i lifo’n rhwydd, a hynny yn nhafodiaith y de a’r gogledd yn ôl y galw. Cawn y jôcs arferol yn yr enwau priod (Bibulus Blodyntatus, Pibengarphos, Titus Taliadbonus) a geiriau mwys diarbed, megis yr ‘Almaenwyr trafferthus’, wrth droi’n ôl am adref, yn ynganu yn eu Hellmyneg gothig: ‘Nie heil ein Päck!’. Gallwn gyd-ganu â’r Galiaid ‘Daeth diwrnod i ffarwelio / Ag annwyl ddinas Scipio / Gan hwylio am hen dir Carthago fras!’ a rhyfeddu fod un o’n prifeirdd wedi rhoi benthyg llinell (wel, fwy neu lai) i ddisgrifio cyflwr mintai o Rufeiniaid ar ôl i Asterix ac Obelix eu lambastio (‘PAFF! BWM! CLATSH! IAW’): ‘Ni bydd eu Lladin, ar fy llw, yn llon ond lleddf’... Mae’n chwith gen i ar ôl y môf-leidyf cwoenddu a gwochlefai oddi af fwîg hwylbwen ei long, ond mae’r fersiwn newydd yn medru rhaffu rhigymau, felly edrychwn ymlaen at ‘odl a chodl’ o nyth y frân.

Newydd-deb yw’r cyfan, yn ôl Alun Jones. Do, bu’n rhaid newid enwau’r cymeriadau gan i fater hawlfraint orfodi hynny arno, ond ar ôl bwlch o 30 mlynedd ers i Wasg y Dref Wen gyhoeddi eu llyfr Asterix olaf, cred fod yr amser wedi dod i ddechrau o’r newydd p’run bynnag. Mae llawer o newidiadau wedi digwydd ers y saithdegau, nid lleiaf yw’r ffaith fod yna gynulleidfa newydd ar gyfer y gyfres. Wrth gydnabod fod newid yr enwau wedi siomi ffyddloniaid y gyfres gyntaf mae’n gobeithio y bydd yr enwau newydd cystal os nad gwell na’r hen rai. Bu’n daith hir a helbulus i gwmni Dalen wrth iddynt lywio’r holl waith trwy nifer o gymalau cytundebol – rhaid i bob cyfieithiad gael ei awdurdodi gan Hachette Livre, perchnogion yr hawlfraint gwreiddiol yn Ffrainc. Ond cafwyd pob cefnogaeth ganddynt ac mae mwy o lyfrau i ddod – dau arall cyn y Nadolig: Asterix a Gorchest Prydain (Asterix ym Mhrydain gynt) ac un newydd i’r Gymraeg sef Rhandir y Duwiau. Y bwriad yw cyhoeddi croesdoriad o deitlau newydd i’r Gymraeg ynghyd â chyfieithiadau newydd o rai a ymddangosodd o’r blaen, ac yn 2013 bwriedir cyhoeddi llyfr Asterix newydd sbon ar yr un pryd â’r fersiwn newydd Ffrangeg. Tipyn o orchest, a chymwynas i ninnau’r Cymry Cymraeg. Tynnaf fy het i Alun Jones. Yn wir, dywedaf ‘chapeau!’

*************************************************************************
Asterix y Galiad / Asterix yn y Gemau Olympaidd / Asterix a Choron Cesar
R. Goscinny ac A. Uderzo, cyfieithwyd gan Alun Ceri Jones
tt 48 yr un, Dalen (Llyfrau) Cyf, £6.99 yr un, cloriau meddal


Mae mwy o wybodaeth ar wefannau dalenllyfrau.com, asterixcymraeg.com ac asterix.com.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Eileen Beasley (1921–2012)

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Awr Dywylla’r Heddlu