Pan fu farw’r Athro Dewi Z.Phillips yn llyfrgell Prifysgol Cymru, Abertawe ar 25 Gorffennaf 2006, collodd Cymru athronydd gyda’r disgleiriaf a faged ganddi erioed. Bu’n Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe o 1971 tan ei ymddeoliad yn 1996, ac adeg ei farw parhâi’n Athro Athroniaeth Crefydd yn Ysgol Graddedigion Claremont, Califfornia.
Deuthum i i’w adnabod ar ôl ymuno â staff yr Adran Efrydiau Allanol yn Abertawe yn 1965, adran y rhoes Dewi wasanaeth hael i’w dosbarthiadau dros lawer blwyddyn, a rhan fawr o’r pleser a’r fraint o gael ei gwmni oedd tynnu ei sylw, o bryd i’w gilydd, at awduron Cymraeg a’i gymell i’w hystyried yng ngoleuni ei hyfrydwch mewn llenyddiaeth a disgleirdeb ei ddawn fel athronydd.
Nid gwaith hawdd i Dewi fyddai ymateb yn gadarnhaol i’r fath gymell. Saesneg oedd iaith ei ddysg a’i ddysgu. Aethai i’r coleg prifysgol yn Abertawe i astudio am radd Saesneg, ond taflodd athroniaeth ei rhwyd amdano yn ystod ei flwyddyn gyntaf yno ac ymhen rhai blynyddoedd, wedi iddo ennill gradd dosbarth cyntaf a mynd ymlaen i Rydychen i sicrhau gradd B.Litt., byddai’n dychwelyd i’w ‘alma mater’ wedi cyfnodau ym mhrifysgolion Dundee a Bangor, i ychwanegu at fri ‘Ysgol Athroniaeth Abertawe.’
Yn awdur cyfrolau ac erthyglau ysgolheigaidd niferus ac yn ddarlithydd penigamp, nid hawdd i un a wnaethai enw cydwladol iddo’i hun ar gyfrif gloywder a threiddgarwch ei fynegiant oedd gwneud cyfiawnder ag ef ei hun, a’i fater, yn y Gymraeg. Am gyfnod, diolch i’w addysg ysgol, bu Dewi’n brin iawn ei Gymraeg, ffaith sy’n peri syndod o gofio fel yr ymserchai yn ei famiaith, gan ymroi i’w noddi ar ei aelwyd ac mewn sawl cylch cyhoeddus yn ogystal, heb sôn am ymhyfrydu ac ymddigrifo ynddi, pob cyfle a gâi. Bwrlwm o ddyn oedd Dewi, waeth beth fyddai’r pwnc dan sylw, a storïwr diflino. Pob tro y galwn yn ei gartref i drafod a cheisio cymhennu tipyn ar arddull Ffiniau, y job fwyaf oedd rhoi taw ar ei ‘jôcs’ a’i hoelio wrth ‘blydi cystrawen’!
Gwyddwn ers tro byd fod ganddo awydd ‘ysgrifennu rhywbeth’ ar y testun Ffiniau, ond roedd yn amheus o’r croeso a oedd i athronydd fel ef ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg. Yn wir, bu fyw i weld yr Adrannau Athroniaeth yn ddibris eu stad ym Mhrifysgol Cymru ac yn cael eu bwrw ymaith fel pethau di-fudd yn nyddiau ‘Education! Education! Education!’ Nid oes i syniadau, a dysgu sut i feddwl amdanynt, bellach ddim lle o bwys ym ‘mhrifysgolion’ Cymru. Ymboenai Dewi yn boenus am dynged y ddisgyblaeth y rhoesai’r Adran yn Abertawe y fath fri arni yng Nghymru, ac y mae nodau ei ofid a’i ddicter, ynghyd â’i gred ddiysgog yn anhepgoredd goleuni athroniaeth i bob cymdeithas wâr, yn atseinio trwy’r gyfrol olaf iddo’i llunio.
Pan amheuai fod unrhyw bwynt iddo ymlafnio i ysgrifennu cyfrol Gymraeg ar Ffiniau, ni allwn ond dweud wrtho am fy mhrofiad yn cyflwyno dramâu Gwenlyn Parry i fy ‘nosbarthiadau allanol’, a’r blas a gâi’r aelodau yn Abertawe, Llanelli, Dre-fach, Ystalyfera a Chwmllynfell ar ymateb i’r ffordd yr oedd ef, yn ei ‘Astudiaeth’ o’r dramâu hynny, wedi olrhain ‘yr erydu graddol ar y safbwynt crefyddol ym mywyd dyn.’ Ac nid cynnig cysur iddo yr oeddwn, eithr dweud y gwir plaen. Roedd ei syniadau a’i ddeongliadau yn cyffroi pobol – gan gynnwys ‘pobol gyffredin’!
Rwyf am gredu i hynny fod yn hwb bychan iddo ysgrfiennu Ffiniau, er gwaetha’r ffaith ei fod yn dal i weld ‘drwgdybiaeth amddiffynnol o athroniaeth yn elfen gref yn ein diwylliant.’ Ei ddisgrifiad ef o’r gyfrol yw ‘Myfyrdod Athronyddol ar Lenyddiaeth’ ac y mae’n 350 tudalen o ysgrifennu treiddgar, ymrysongar o fath prin iawn yn y Gymraeg. Y mae’n gyfrol sy’n cymryd yn ganiataol fod eto ddarllenwyr yn bod a chanddynt ddigon o barch at fyd y meddwl, a’r Gymraeg, i weld gwerth mewn astudiaeth sy’n mynnu galw’r deall at ei waith.
Fel yr esbonia Dewi, ailgydio mewn traethawd ar T.H.Parry-Williams a ddechreuasai yn 2004 a arweiniodd at Ffiniau. Dechreuodd gymharu gwaith Parry-Williams â gwaith beirdd eraill, ac yn ei eiriau ef:
Yr hyn a apeliodd ataf oedd ymdriniaeth y beirdd â ffiniau – y ffin rhwng bywyd a marwolaeth, corff ac ysbryd, amser a’r tragwyddol, dyn a Duw, a chrediniaeth ac anghrediniaeth. Ond wrth drafod y rhain, dechreuais ddarllen gwaith beirniaid llenyddol a darganfod cymaint o athroniaeth gudd oedd yn eu hysgrfiau. O ganlyniad, daeth ffiniau eraill i’r amlwg: y ffin rhwng athroniaeth, beirniadaeth lenyddol ar farddoniaeth, ac ysgrifau creadigol.
Erbyn iddo orffen ysgrifennu roedd wedi llunio pedair pennod ar ddeg, pedair ohonynt yn rhan gynta’r gwaith dan y pennawd ‘Rhwystrau’, a deg arall yn yr ail ran o dan y pennawd ‘Myfyrdodau Syniadol ar Lenyddiaeth.’
Gwaith i rywun arall fydd adolygu’r gyfrol bwysig hon. Bodlonaf ar ddweud fod ei ymwneud Wittgensteinaidd â natur iaith yn ganolog i’w ymosodiad, wrth drafod ‘Rhwystrau’, ar y cam a wneir ag iaith gan feirniaid sy’n orbarod, yn ei farn ef, i lyncu damcaniaethau estron heb eu treulio, diffyg sy’n esgor ar ddryswch syniadol dybryd. Y mae cwestiwn Socrates, ‘Ydych chi’n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud?’, ar annel yn Ffiniau o’r dechrau, ac wrth ymwneud yn yr ail ran â gwaith rhai o brif ffigurau ein llên – e.e. T.Gwynn Jones, W.J.Gruffydd, R.Willams Parry,
T.H. Parry-Williams, Saunders Lewis, Gwenallt, Waldo Williams a Kate Roberts, fe’u rhyddheir o afael ein hen deyrngarwch iddynt i’w pondro o’r newydd. A da iawn o beth yw bod ei gynefindra â llenyddiaeth Saesneg yn sicrhau i R.S.Thomas, Dylan Thomas, Samuel Beckett, Philip Larkin, Wallace Stevens a George Eliot ran gyfoethogol yn ei astudiaeth hefyd.
Y mae’n destun diolch ein bod yn cael gweld llenyddiaeth Gymraeg yng ngolau canfyddiadau Dewi ac y mae’n glod i Wasg y Lolfa iddi ymgymryd â’r cyhoeddi gan ddangos gwir barch i’w gyfraniad ef at ddiwylliant ei wlad. Rwy’n mawr obeithio y gwna nifer dda o ddarllenwyr ffyddlon Barn eu gorau i ddod i’r Babell Lên erbyn 2 o’r gloch ar bnawn Mawrth, 5 Awst, i gefnogi lansiad Ffiniau a dangos fod gan y ‘werin eisteddfodol’, y bu Dewi mor hapus yn eu plith, syniad clir o’i werth ef fel cymwynaswr o Gymro gwirioneddol athrylithgar.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

