Defnydd buddiol ac anfuddiol o AI, dyfeisio tafod artiffisial, darganfod offer pren hynafol yng Ngwlad Groeg, a thranc seren gynnar.
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn fendith a melltith mewn sawl ffordd. Ar y naill law bydd y canlyniadau yn hollol drawsnewidiol a buddiol. Yn fy maes i, yn ôl yn 2018 fel un o’r defnyddiau cyntaf ohono (AlphaFold), ymestynnwyd ein gwybodaeth foleciwlar o ensymau a phroteinau eraill gan godi’r nifer ohonynt y mae eu strwythur yn hysbys inni o ddegau o filoedd i 200 miliwn dros nos. Dyma chwyldro yn ein dealltwriaeth o fecanwaith sylfaenol bywyd, un sy’n cynnig allwedd i drin cyflyrau iechyd di-rif. Cymerwyd trigain mlynedd i adnabod strwythur y degau o filoedd o broteinau a oedd yn wybyddus inni cyn hyn, gyda Herbert Rees Wilson o Nefyn, un o’r tîm a ddatgelodd strwythur helics dwbl DNA yn 1953, yn chwarae rhan allweddol yn hynny. Bellach, mae sôn am ddefnyddio AI i gyflymu diagnosis canser, fel y clywais yn ddiweddar fel rhan o gyfres wych o ddarlithoedd agored yr Ysgol Feddygol ym Mangor. Ar y llaw arall, mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddefnydd (proffidiol) AI yn ddefnydd ar thema megis ‘adnabod eich cath mewn lluniau ar y we’.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru