Thema dywyll Thema golau

For Wales See Scotland

Yn ôl yn 1998, flwyddyn cyn cyfarfod sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fe draddododd yr hanesydd Kenneth O. Morgan ddarlith yng Nghaerdydd yn ystyried gorffennol a dyfodol datganoli. Yn ystod y ddarlith honno fe atgoffodd ei gynulleidfa o eiriau Encyclopaedia Britannica’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ‘ForWales – see England’. Erbyn hyn, fodd bynnag, roedd y rhod wedi troi. Neu, efallai’n fwy cywir, roedd y golygon wedi symud. A hundred years on, in a very different social and cultural context, in which English nationalism seeks a role and a rebirth of aWelsh nation seems to have genuinely taken place, we might find another watchword – forWales – see Scotland.

Mae’n arwyddair trawiadol! Ond, a bod yn gwbl onest, prin y bu llawer o arwyddion o hynny yn y blynyddoedd ers traddodi’r ddarlith. Ar wahân i ambell i sylw digon amhenodol i’r perwyl fod angen ceisio sicrhau mwy o bwerau i’r Cynulliad ‘fel Senedd yr Alban’, ychydig o sylw difrif a gafodd gwleidyddiaeth yr Alban yng Nghymru (gyda thudalennau Barn yn eithriad anrhydeddus).

Rwy’n tybio bod rhesymau da am hynny hefyd. Yn un peth, o unrhyw safbwynt cymharol, Cymru yn hytrach na’r Alban a ddarparodd Stori Fawr datganoli rhwng 1999 a 2011. Yng Nghymru y bu’r newidiadau cyfansoddiadol mwyaf trawiadol o ddigon wrth i Ddeddf 1998 brofi’n gwbl annigonol, ac yna’r drefn Gorchmynion Cymhwysedd Deddfu bondigrybwyll a sefydlwyd gan Ddeddf 2006 fethu hefyd. Ar ben hynny, yng Nghymru y cafwyd y symudiadau mwyaf arwyddocaol yn y farn gyhoeddus wrth i’n cydwladwyr benderfynu eu bod – wedi’r cyfan – yn gweld gwerth yn yr hen fusnes datganoli ’ma. Tro ar fyd a gafodd ei gadarnhau y tu hwnt i unrhyw amheuaeth gan ganlyniad refferendwm mis Mawrth eleni. O’i gymharu, digon digyffro fu gwleidyddiaeth yr Alban. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r llanast Cymreig cychwynnol, profodd y drefn gyfansoddiadol a sefydlwyd ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yno’n wydn. A go brin fod y farn gyhoeddus yn yr Alban wedi newid ryw lawer chwaith – o leiaf tan fis Ebrill eleni, ar drothwy etholiad Mai.

Hyd yma chlywais i ddim eglurhad credadwy o’r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban ym mis Ebrill. Sut yn y byd y llwyddodd yr SNP i droi’r fantais sylweddol iawn yr oedd Llafur yn ei mwynhau yn y polau piniwn ar ei phen ac ennill buddugoliaeth mor ysgubol, a hynny mewn cyfnod mor fyr? Wedi’r cyfan, nid rhyw ganlyniad fel etholiad cyffredinol Prydeinig 1997 mo hon. Pan enillodd Tony Blair ei etholiad cyffredinol cyntaf roedd yr ysgrifen ar y mur flynyddoedd cyn i’r etholwyr gael eu gwahodd i roi’r farwol i John Major a’i blaid. Yn yr Alban eleni, fodd bynnag, ymddengys fod y farn gyhoeddus wedi newid, os nad dros nos, yna o fewn ychydig wythnosau’n unig – gyda chanlyniadau sydd ddim ond megis yn dechrau atseinio trwy wleidyddiaeth yr ynysoedd hyn.

Yn sgil buddugoliaeth Plaid Genedlaethol yr Alban, bydd datblygiadau yn yr Alban yn cael effaith uniongyrchol ar wleidyddiaeth Cymru. Yn benodol, mae eisoes yn amlwg y bydd llwyddiant yr SNP yn her aruthrol i’r Blaid Lafur Gymreig. O ddarllen maniffesto Llafur ar gyfer etholiad Mai mae’n amlwg fod plaid Carwyn Jones wedi gobeithio na fyddai newid cyfansoddiadol yn derbyn rhyw lawer o sylw dros y bum mlynedd nesaf. Gydag Aelodau Seneddol Llafur mor amlwg anfoddog ynglyn â’r syniad o ildio mwy o rym i Gymru, mae pwyslais y ddogfen ar sefydlogi a chyflawni – neu, os caniateir i mi arddel gair hylla’r iaith Gymraeg – ‘delifro’.

Ar y gorau, go brin fod hon yn safbwynt credadwy. Mae rhai Llafurwyr yn cydnabod yn breifat y byddent wedi gorfod trafod materion megis creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru er mwyn sicrhau clymblaid hefo Plaid Cymru. Ar ben hynny, roedd bwriad llywodraeth Llundain i sefydlu Comisiwn i Gymru ar batrwm Comisiwn Calman – ‘ap Calman’ yw bathiad rhai o’n gweision sifil hyn – yn golygu nad oedd modd osgoi cwestiynau go sylfaenol ynglyn â’r gyfundrefn lywodraethol. Ond mae buddugoliaeth Alex Salmond wedi gwarantu y bydd cwestiynau cyfansoddiadol ar frig uchaf un yr agenda gwleidyddol. Er mai’r refferendwm arfaethedig ar annibyniaeth yw’r prif ffocws, mae’r SNP yn benderfynol o wasgu pob consesiwn posib o lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn y cyfamser. A gan fod arolygon barn yn dangos yn eglur bod awydd cyffredinol yn yr Alban am fwy o bwerau, fe fydd Cameron, Clegg a’u cynghreiriaid yn hynod annoeth i beidio ildio tir rhag colli’r cyfan. Yn naturiol, fe fydd hyn yn siwr o godi’r cwestiwn o sefyllfa Cymru o fewn proses ehangach o newid cyfansoddiadol.

Mewn byr eiriau, mae’n codi’r union gwestiwn neu gwestiynau yr oedd Carwyn Jones am eu hosgoi! Eisoes cafwyd digonedd o dystiolaeth o ba mor anesmwyth yw’r cyfan iddo. Ar ôl refferendwm ac ymgyrch etholiadol lle gwelwyd y PrifWeinidog yn sicr ei gyffyrddiad, mae bellach yn rhoi’r argraff ei fod yn troi fel cwpan mewn dwr.

Problem sylfaenol Carwyn Jones yw nad oes ganddo ddarlun eglur yn ei feddwl ei hun o sut y dylai Cymru – a Phrydain – ddatganoledig edrych yn y pen draw. A bod yn deg, nid y fo’n unig sydd yn y sefyllfa yma. Pan ddefnyddiodd Ron Davies yr ymadrodd mai ‘proses nid digwyddiad yw datganoli’ nid oedd ganddo syniad o ddiwedd y broses honno. Nid oedd Rhodri Morgan fawr callach chwaith. A siarad yn blaen, dyna’r gwir am y Blaid Lafur drwyddi draw.

Pan oedd y blaid honno mewn grym yn Llundain a Chaerdydd fel ei gilydd nid oedd y gwagle yma yn ei safbwynt cyfansoddiadol o bwys tragwyddol. Cyn belled â bod y blaid ei hun yn gallu cytuno ar y cam nesaf – ac nidoedd hynny bob tro yn hawdd – fe ellid anwybyddu ‘yr hir dymor’ a’i drin fel rhywbeth a oedd o ddiddordeb i ‘ffwndamentalwyr’ cenedlaetholgar yn unig. Bellach, fodd bynnag, mae’r canlyniad yn yr Alban a’r ymateb iddo yn Llundain yn golygu bod pob math o bosibiliadau yn cael eu gwyntyllu. Ond gan nad yw’r Blaid Lafur yn meddu ar weledigaeth eglur o’r dyfodol, nid oes ffon fesur ganddi y gellir ei defnyddio i benderfynu pa bosibiliadau y dylid eu coleddu a pha rai y dylid eu gwrthod. Canlyniad hyn yw fod Carwyn Jones a’i lywodraeth yn ymddangos yn ansicr, yn wan ac ynddigyfeiriad.

Nid oes modd proffwydo beth yn union a ddaw yn yr Alban. Efallai y bydd y llanw a lifodd i gyferiad yr SNP mor syfrdanol o gyflym yn gynharach eleni yn troi yn gynt o lawer na’r disgwyl? Cawn weld. Ond ni ddylai Carwyn Jones gymryd hynny’n ganiataol. Yn hytrach, byddai’n ddoethach iddo ystyried ffawd Plaid Lafur yr Alban. Un o broblemau’r blaid honno yw ei bod wedi mabwysiadu safbwynt ceidwadol ar y cyfansoddiad gan ymateb yn betrus a diddychymyg i awydd amlwg pobl yr Alban am fwy o rymoedd. Os yw Plaid Lafur Cymru’n dilyn yr un trywydd, ac os yw’r holl sôn am ddatganoli pellach i’r Alban yn codi awydd am gamau tebyg yng Nghymru – ac mae digon o dystiolaeth fod yna eisoes gefnogaeth oddefol i fwy o rymoedd – fe allai Llafur ganfod ei hun mewn dyfroedd dyfnion.

Tybed a oes gan Carwyn Jones y weledigaeth angenrheidiol i ail-ddychmygu lle Cymru ddatganoledig mewn gwladwriaeth dra gwahanol ei natur i’r un presennol? Ac os hynny, tybed a oes ganddo hefyd yr awdurdod gwleidyddol i sicrhau bod ei blaid yn ei mabwysiadu? Os na, bydd anesmwythyd amlwg yr wythnosau diwethaf yn parhau ac yn dwysau.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cofio Alan: Y Chwarae'n Troi'n Chwerw

Ymlaen >

Cwis i'n Darllenwyr