Thema dywyll Thema golau

Gadael coleg heb radd

Myfyrwyr mewn seremoni graddio Myfyrwyr mewn seremoni graddio
Mae’r seren wrth ddydd Iau 29 Gorffennaf 2023 wedi bod yn fy nyddiadur ers o leiaf chwe mis. Diwrnodau bant o’r gwaith wedi eu trefnu; swper a gwesty dros nos hefyd i bedwar aelod o’r teulu a hyd yn oed apwyntiad yn y garej leol i sicrhau bod teiars fy nghar bach injan 1 litr yn barod ar gyfer y daith bum awr oedd o’u blaen. Seremoni graddio fy merch mewn prifysgol yn Lloegr oedd yr achlysur, ond fel y bu nid seremoni ‘Graddio’ a gafwyd ond ‘Dathliad Diwedd Astudiaethau’. Fel gyda chanrifoedd o seremonïau’r brifysgol hon, roedd y traddodiadau yn fyw ac yn iach. Roedd y gŵn du a’r cwcwll gwyn blewog yno; y cyflwyniadau yn Lladin ynghyd â’r arfer o benglinio gerbron Meistr y Coleg ac edrych i fyw ei lygaid. Yr hyn oedd ar goll i’m merch oedd gradd – sef yr union reswm yr aeth hi a’i chyfoedion i’r brifysgol. Ar ôl tair blynedd o astudio dwys a thraethodau wythnosol mae wedi gadael nid fel ‘Graduate’ ond yn hytrach fel ‘Graduand’ – un sydd heb eto dderbyn gradd – a hynny o ganlyniad i’r boicot marcio gan addysgwyr sy’n aelodau o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU).

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Sinéad O’Connor a thudalennau blaen papurau newydd yn dilyn ei marwolaeth

Sinéad O’Connor – yr athrylith gythryblus

Ymlaen >
Ifor Davies yn dyfarnu ei wobr i waith Callum Humphreys

Yr hudolus, yr hiraethus a’r amwys