Mae pethau wastad yn gymhleth yn ty ni pan fydd Cymru’n chware rygbi yn erbyn Iwerddon. Felly, roedd rownd gogynderfynol Cwpan y Byd yn Wellington yn dipyn o argyfwng acw. Ateb hapus Denis (sy’n wyth oed ac yn cysgu efo pêl rygbi) i’r broblem oedd cefnogi Iwerddon a gwisgo gwyrdd tan ddiwedd y gêm, yna newid i’w grys a’i gap coch wedyn. Sefyllfa win-win fel maen nhw’n dweud.
Ym mhob un o’r gemau y bu Iwerddon yn eu chwarae yn Seland Newydd roedd y dorf yn fôr o wyrdd. Roedd bron iawn fel bod mewn gemau cartref am fod cynifer o gefnogwyr Iwerddon yn dilyn y tîm o gêm i gêm. Yr hyn â’u nodweddai oedd mai pobl ifainc oedden nhw’n bennaf. Nid arwydd oedd hynny bod gan bobl ifainc Iwerddon ddigon o bres i deithio rownd y byd i gefnogi eu tîm – er bod rhai wedi gwneud hynny. Arwydd ydoedd yn hytrach bod allfudo unwaith eto yn realiti yn Iwerddon. Gwyddelod ifainc oedd y rhain a symudodd i ben draw’r byd – y mwyafrif i Awstralia, a rhai i Seland Newydd – i chwilio am waith. Ers y Newyn Mawr yn y 1840au, mae allfudo wedi bod yn rhan o hanes a seici’r Gwyddelod. Lliwiodd ganeuon, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth y genedl.
Ac mae dyddiau’r allfudo wedi dychwelyd wrth i filoedd o bobl ifainc orfod gadael Iwerddon i chwilio am waith – ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Seland Newydd. Bob wythnos yn Iwerddon daw newyddion am ffatri arall yn cau, neu gwmni rhyngwladol yn symud i wlad fel India neu Ddwyrain Ewrop, lle mae gweithlu rhatach i’w cyflogi. Ar ben hynny mae llai o swyddi ar gyfer athrawon ifainc, ac yn y sector cyhoeddus yn gyffredinol, wrth i’r llywodraeth dorri ar wariant. Does ’na ddim llawer o obaith y daw gwelliant yn y tymor byr. Yr unig ddewis amdani i’r rhai sy’n gallu mynd, y rhai heb forgeisi a dyledion anferthol, yw gadael Iwerddon.
Mae pacio a ffarwelio, trefnu visas a thocynnau wedi dod yn ddefodau cyfarwydd unwaith eto. Y gwahaniaeth y tro yma ydy mai yn y maes awyr y mae’r ffarwelio’n digwydd yn hytrach nag yn y porthladd, a bod Skype, Facebook ac e-bost yn cadw teuluoedd mewn cysylltiad â’i gilydd mewn ffyrdd nad oedd yn bosib ers talwm.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae ’na gynnydd o 45% wedi bod ers y llynedd yn nifer y Gwyddelod a adawodd y wlad. Yn y flwyddyn tan Ebrill 2011, fe adawodd 40,000 o Wyddelod, o’u cymharu â 27,700 y flwyddyn cynt. Ac roedd y ffigwr hwnnw i fyny o 18,400 ar y flwyddyn cyn hynny. Mae’r ffigyrau’n awgrymu bod y rhan fwyaf o’r rhai sydd wedi gadael yn bobl ifainc. Ac mae realiti’r ystadegau swyddogol i’w gweld o’n cwmpas yn y gymdeithas. Ar ein stad ni o 18 o dai, mae teulu gyda phedwar o blant, tri ohonyn nhw yn eu hugeiniau cynnar, wedi ymfudo i Ganada. Mae ’na deulu arall sydd wedi symud i Tsieina, am fod swydd y tad wedi ei hadleoli yno. Fe adawon nhw ddau o’u plant adre yn y coleg gan fynd â’r mab ieuengaf efo nhw i Shanghai. Mae ’na ddwy ferch yn eu hugeiniau cynnar mewn teulu arall wedi cael swyddi’n dysgu Saesneg dramor – un yn Cambodia, un yn Sbaen. Mae ’na ferch o deulu arall wedi cael swydd dysgu yn Qatar. (Mae’n debyg bod ’na ddigonedd o waith yno wrth i’r wlad baratoi am Gwpan Bêl-droed y Byd.) Astudio yn yr Almaen mae mab cymdogion eraill. Ymhlith ein teulu a’n ffrindiau agos, mae nai fy ngwr a’i gariad wedi symud i Awstralia ers tair blynedd bellach. Mae un mab i ffrind inni yn Awstralia yn gweithio mewn bar, a’i fab arall newydd ddod adre ond yn bwriadu dychwelyd. Treuliodd merch i ffrind arall flwyddyn yn Awstralia yn trin gwallt. Bydd yn dychwelyd yno’n fuan gyda swydd gyffelyb wedi ei threfnu ar ei chyfer yn barod.
Mae hanner pobl ifainc y dre yn Awstralia. Ac mae rhwydwaith fywiog ac effeithiol o Wyddelod ifanc sy’n gweithio eisoes mewn bariau a thafarndai yn Awstralia wrthi’n trefnu swyddi i’w gilydd ac yn rhannu fflatiau. Mae bron iawn fel bod adre – efo tywydd gwell. O glywed rhai pobl yma yn galaru ac ochneidio, gellid credu bod hyn i gyd yn drasiedi cenedlaethol.Wrth gwrs mae’n drueni nad oes swyddi ar gael yma iddyn nhw. Ac wrth gwrs ei bod hi’n anodd i rai teuluoedd, yn enwedig pan mae salwch neu brofedigaeth yn y teulu. Ond ar y cyfan, dwi’n cytuno efo gohebydd o Galway ar dudalen lythyrau’r Irish Times tua phythefnos yn ôl. Yn ôl y llythyrwr mae hi’n anffodus fod cymaint o ffocws negyddol ar yr allfudo. Fe aeth ei fam a’i dad, meddai – o Kerry a Longford – i Loegr yn y 1960au (fel miloedd o Wyddelod eraill) i gael gwaith. Ar ôl cyfarfod yn Lloegr, fe briodon nhw a magu teulu. Fe wnaethon nhw ffrindiau triw a chael myrdd o brofiadau gwerthfawr na fydden nhw erioed wedi eu profi adre. Daethant yn ôl i Kerry i ymddeol rai blynyddoedd yn ôl. Bu ef ei hun, medd y llythyrwr, yn ddigon ffodus i gyfarfod ei wraig (sydd o Galway) yn Llundain ddeng mlynedd yn ôl – ac maen nhw rwan yn magu eu teulu bach yn ôl yn Galway.
Nid dedfryd o farwolaeth yw allfudo, medd y gwr hwn, ond dechrau newydd. Llysgenhadon ifainc yw’r allfudwyr, yn dod â hiwmor ac optimistiaeth i ble bynnag yr ânt. Mi fyddan nhw’n cyfarfod pobl, gwneud ffrindiau, priodi, a dysgu sgiliau newydd. Bydd ambell un yn gwneud ffortiwn. Bydd rhai yn dod adre’n ôl. Ac mi fyddan nhw i gyd wedi cyfoethogi eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill.
Mae’r allfudo y tro yma yn wahanol i brofiad y cenedlaethau o’r blaen. Ers talwm, byddai rhaid i’r penteulu fynd i Loegr i gael gwaith. Mae gan niferoedd lawer o Wyddelod atgofion trist o ffarwelio â’u tadau wrth iddyn nhw orfod croesi’r môr er mwyn gallu anfon arian adre i gynnal eu teuluoedd. Er fod ’na ddigon o enghreifftiau o hynny heddiw hefyd (mae ’na ddau o blant yn nosbarth Denis sydd â’u tadau yn gweithio dramor), ar y cyfan pobl ifainc yw allfudwyr heddiw. Ac mae’r mwyafrif ohonyn nhw i’w gweld yn cael amser braf. Hefyd yn y gorffennol, y disgwyliad, a’r gwirionedd oedd bod pobl yn gadael am byth. Mae’r dyn drws nesaf i ni yn un o naw o blant: fo ydy’r ieuengaf. Fe allfudodd y brawd hynaf i Seland Newydd cyn i Cliff gael ei eni. Mae’r ddau newydd gyfarfod am y tro cyntaf erioed. Dychwelodd y brawd adre am fod un o’i chwiorydd yn ddifrifol wael. Mae’r byd yn llawer llai erbyn heddiw. Dydy prynu tocyn awyren i ddod adre ddim mor amhosib â hynny. Er yr holl ddarogan gwae na fydd allfudwyr ifainc heddiw yn dychwelyd, ac y bydd Iwerddon yn colli cenhedlaeth gyfan, mae lle i obeithio, nid yn unig y dônt yn ôl, ond y bydd gwaith a dyfodol disglair yn eu disgwyl. Oherwydd mae ’na arwyddion fod gwelliant yn economi Iwerddon ar y gorwel. Mae un allan o bob pedwar cwmni yn y wlad yn dweud eu bod nhw’n bwriadu cyflogi mwy o weithwyr dros y tri mis nesaf. Mae allforion wedi cynyddu. Mae economegwyr rhyngwladol yr OECD yn darogan twf economaidd o 1% yn 2012, a diweithdra’n dechrau gostwng erbyn 2013. Mae’r wlad wedi mynd ati’n ddiwyd a phoenus i weithredu’r mesurau llym a orfodwyd arni gan Gronfa Ariannol y Byd a Banc Canolog Ewrop. Mae’r mesurau hynny’n dechrau dwyn ffrwyth: cwtogiad yng nghyfraddau llog y benthyciadau cenedlaethol, a’r mymryn lleiaf o gynnydd mewn hyder yn y wlad, o’r tu allan ac oddi mewn. Ac fel y gwyddom i gyd, mae hyder yn hollbwysig. Dyna fydd yn denu pobl adre ac yn cadw pobl yma.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

