Thema dywyll Thema golau
Stormydd Awst ym myd addysg
Gadael y garej – menter fawr Wil Sam
Ysbryd aroesol

Gadael y garej – menter fawr Wil Sam

erthygl-medi-2020-2135-1040 erthygl-medi-2020-2135-1040
Yn 1963 ac yntau dros ei ddeugain oed ac yn dad i ddwy ferch fach, gwerthodd Wil Sam ei garej brysur yn Llanystumdwy a mentro fel awdur Cymraeg ar ei liwt ei hun. Mae’n anodd dirnad heddiw cymaint o fenter oedd hon, menter ffôl yn nhyb llawer. Gofynnodd un cymydog iddo sut yr oedd yn medru fforddio ymddeol mor gynnar! Yr unig awdur Cymraeg arall o’r cyfnod a adawodd swydd er mwyn ennill crystyn trwy ysgrifennu oedd Islwyn Ffowc Elis, ond profodd yr ymdrech a’r biliau yn drech nag ef ar waethaf ei ddawn loyw. Cofier hefyd y cyd-destun. Fel dramodydd yn bennaf y daethai WS i amlygrwydd, ond doedd dim un cwmni drama proffesiynol Cymraeg yn bodoli yn 1963; y Cyngor Llyfrau Cymraeg yn ei fabandod, dim Radio Cymru, a sianel deledu Gymraeg ddim eto hyd yn oed yn ymgyrch gan Gymdeithas yr Iaith a sefydlwyd flwyddyn ynghynt. Beth oedd ar feddwl y dyn?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-medi-2020-2134-1039

Stormydd Awst ym myd addysg

Ymlaen >
erthygl-medi-2020-2136-1041

Ysbryd aroesol