Drama‑basiant gymunedol yw cynhyrchiad diweddaraf Frân Wen. Aeth DEWI R. JONES draw i Lŷn i’w gweld a chael ei foddhau’n fawr iawn.
PRAIDD
GAN GWYNETH GLYN
FRÂN WEN
CYFR. ELIS PARI
NOS WENER, 8 MAI, FFERM CARREG, ANELOG, ABERDARON
Llwyfan y cynhyrchiad hwn oedd pridd a daear fferm a chartref y cyfarwyddwr Elis Pari yn Anelog. Drwy fod yn un â’n hamgylchfyd a’n gwerthoedd cynhenid, yn iaith a chymdogaeth, does dim dianc rhag eu dylanwad na’u crafangau, ac mae ceisio ymryddhau o’u gafael yn dasg amhosib. Ac wrth grwydro’r tir roedden ninnau y gynulleidfa, fel y cymeriadau, yn braidd ein cynefin.
Fe’n cyflwynwyd i Dafydd (Siôn Emyr) a’i fam (Carys Gwilym) yn yr olygfa gyntaf ar faes bychan prydferth Caffi Plas Carmel. Daethom i ddeall yn fuan mai bwriad ei rieni oedd trosglwyddo’r fferm Graig Goch i’w mab gan bwysleisio mai ei gyfrifoldeb ef fyddai gwarchod y tir. Daethom i amgyffred hefyd bryder y Dafydd ifanc ynghylch ysgwyddo’r baich.
Ar droed yr aethom ni wedyn fel cynulleidfa at fferm teulu’r cyfarwyddwr Elis Pari. Wrth gerdded ar hyd y ffordd fe welem olygfeydd byw o weithwyr y tir a’u pladuriau a phâr priod a’u hystum fel Carneddog a’i wraig; wrth syllu arnynt drwy fframiau mawr a godwyd mewn adwyon caeau ymrithiai’r golygfeydd hyn yn ffotograffau du a gwyn gan roi i ni flas cyfnod can mlynedd a mwy yn gynharach – y gorffennol fel petai wedi ei fframio. Dyma ychwanegiad celfyddydol trawiadol gan y cynllunydd Marc Rees.
Ar ôl cyrraedd Fferm Carreg daethom i adnabod Guto (Dewi Wykes), ffrind triw Dafydd, cyn i ni gamu i’r sied ddefaid ar gyfer golygfa gyfochrog ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac i gyfarfod William Owen (Owen Arwyn) a’r gymdogaeth amaethyddol gyfan yn eu hwyliau yn nhymor y cneifio. Ond roedd cysgodion y lladdfa fawr yn cau amdanyn nhw a John Williams Brynsiencyn yn annog meibion y ffermydd i listio. Dyna fu hanes Griff, mab William, a phan ddychwelodd adref o’r rhyfel wedi’i glwyfo wynebai ddilema debyg i un Dafydd am warchod a gweithio’r tir. Pwysau i gynnal ar y naill law ac i addasu a mentro ar y llall.
I gloi’r ddrama fe’n harweiniwyd i sied arall i weld golygfa drawiadol rhwng Dafydd a’i fam. Byrlymai’r mab o syniadau am fuddsoddi yn y tir a phrynu fferm William Owen. Ond yn raddol, a hynny o dan bwysau gwaith corfforol ac ariannol weinyddol, fe waniodd iechyd meddwl Dafydd a throi’n iselder ac unigrwydd tywyll. Roedd o fewn dim i gyflawni hunanladdiad ond fe gysylltodd ei fam ag elusen DPJ mewn pryd a chafwyd cymorth. Reit ar y diwedd fe aeth Dafydd i ymarfer côr. Roedd cadair wag yn disgwyl amdano yng nghanol cymuned warchodol ei gyfoedion. Ychydig funudau symbolaidd.
Roedd craidd y ddrama yn seiliedig ar brosiect a luniodd Elis Pari fel rhan o’i radd ymchwil yn ymwneud â phroblemau iechyd meddwl ymysg ffermwyr Cymru. Roedd cyfarwyddo cynhyrchiad llwyddiannus ar dir ei gartref fel hyn yn dysteb i’w ddawn. Yn ychwanegol at yr actorion proffesiynol, denwyd aelodau o’r gymuned amaethyddol leol i fod yn rhan o’r prosiect uchelgeisiol hwn – aelodau o’r Ffermwyr Ifanc, cwmnïau drama Llangïan a Llwyndyrys a Chôr Meibion Carnguwch.
Maddeued pob un o’r cast dawnus i mi am enwi perfformiad un actor. Roedd crebwyll Siôn Emyr wrth bortreadu’r prif gymeriad Dafydd mor gyflawn, yn llawn emosiwn, yn raenus ac ar ei orau yn yr olygfa olaf. Fe berchnogodd ac fe ddeallodd ei dasg. Ac roedd un seren arall a glymai’r holl gyflwyniad ynghyd, sef sgript Gwyneth Glyn. Rhoddodd i’r actorion gyfoeth o ddeialog, Cymraeg llafar idiomatig Llŷn ac Eifionydd yn ei ddillad gorau gan fynegi’n groyw holl ystyr a dyfnder yr hiraeth a’r dyhead sydd o hyd yng nghalon cefn gwlad Cymru.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
