Thema dywyll Thema golau

Gamblo ag iechyd Awstralia

erthygl-hydref-2021-2273-1172 erthygl-hydref-2021-2273-1172
Bydd mis Hydref yn drobwynt parthed Covid-19 a’i effaith ar Awstralia. Ac mae tynged y wlad i gyd yn nwylo pobl De Cymru Newydd, y ‘cilcyn o ddaear [enfawr] mewn cilfach gefn’ lle sefydlwyd y drefedigaeth gyntaf yn 1788. Gan barhau i ddyfynnu T.H. Parry-Williams, ‘Hon’ benodol yr achos hwn yw Gladys Berejiklian. Hi yw’r prif weinidog o dras Arminaidd nad oedd yn siarad gair o Saesneg am bum mlynedd gyntaf ei bywyd, sy’n arwain llywodraeth geidwadol. Mae hi’n benderfynol o ailagor busnesau, siopau a thafarnau er bod y sefyllfa o ran Covid ar ei gwaethaf ers dyfodiad y firws i lannau Oz ar 25 Ionawr 2020. Yn ystod y mis hwn, disgwylir i nifer yr achosion dyddiol yn y dalaith gyrraedd oddeutu’r 3,000. Fe wnaeth Berejiklian rybuddio’r cyhoedd ym mis Awst fod y gwaethaf eto i ddod ac y dylid derbyn y byddai llawer yn marw o Covid. Yn gwbl gywir eto, proffwydodd rai dyddiau’n ddiweddarach y byddai’r gyfundrefn iechyd yn dod o dan bwysau difrifol. Ar yr un pryd, er mor ddu oedd y sefyllfa, cyhoeddodd Gladys yn hyderus y deuai eto haul ar fryn.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2021-2271-1171

Gweld y meddyg – oes raid?

Ymlaen >
erthygl-hydref-2021-2274-1173

Rhwng hiraeth a gobaith – holi Tecwyn Ifan