Thema dywyll Thema golau

Gaynor Hosan

Goleuadau Nadolig Goleuadau Nadolig
Mae’r ffêri leits ganddi yn y ffenest ers iddyn nhw droi’r clocia. “Dolig ’di dod yn gynnar i ambell un!” Gwahanol iawn i chdi ta. Dyna roedd arni hi isio’i ddweud wrtho fo. Roedd hi wedi sylwi eisoes ar goch y fan bost yn sgrechian trwy’r patshys moel yn y goeden binwydd ar waelod y dreif. Ar y cownsul mae’r bai am y moelni. Nhw bia’r lamp sydd bellach yn tyfu trwy’i choeden hi. A nhw ddaeth i dorri’r bylchau blêr rhwng ei brigau er mwyn cyrraedd y drws bach cudd yn y polyn i’w galluogi i agor ei chrombil. Wyddai hi ddim cyn hynny bod drws yn y lamp, ond rŵan mae hi’n ei lecio hi’n well am bod ganddi hithau berfedd sydd angen ei dendiad weithia pan fydd ei goleuni’n dechra pylu. Ac erbyn hyn, dydi hi ddim hyd yn oed yn meindio’r patshys moel: mae yna iws iddyn nhw, gan ei bod i’n medru sbecian drwyddyn nhw i weld pwy sy’n pasio. Neu’n stopio. Fatha’r fan bost.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
StarStarStar/Steer (Transphoton) V a phase shifts (after David Tudor)

Bydded goleuni – adolygiad o arddangosfa Cerith Wyn Evans

Ymlaen >
Gareth Bale yn sgorio unig gôl Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd 2022

Difyrrwch pwysig, pwysig ond dim ond difyrrwch