Thema dywyll Thema golau

Gerallt

Cyffroadau gwleidyddol a hanesyddol sydd wedi ysgogi Gerallt i fynd ati i ganu ei gerddi mwyaf cofiadwy. Daeth yr elfen honno i’r amlwg gyntaf yn gynnar iawn yn ei hanes. 

Roedd boddi Cwm Celyn yn agoriad llygad i mi. Roedd ein Cymreictod ni yn y Sarne yn Gymreictod diogel braf, a diniwed hefyd. Roedd o’n mynd i bara am byth. Ond tra oedd Bob Lloyd, Llwyd o’r Bryn, yn trefnu i godi cofgolofn i Bob Tai’r Felin roedd Corfforaeth Lerpwl, dair milltir o Dai’r Felin, yn codi argae.     

Falle ei fod o’n arwyddocaol mai am awdl i Dryweryn yr enilles i fy nghader gynta erioed yn 1960, a bod hynny’n rhagflas o gerddi a chadeirie diweddarach.     

Dwi’n meddwl erbyn hyn bod Lerpwl wedi gwneud cymwynas fawr â Chymru. Doedd dim angen iddyn nhw ymddiheuro inni, fel y gwnaethon nhw yn y diwedd. Yn bur fuan ar ôl boddi Cwm Celyn bu cynnydd anhygoel mewn cenedlaetholdeb Cymreig. Daeth yn amlwg i’r Cymry bod yn rhaid inni amddiffyn ein hunain.  

Daeth hynny â ni at 1969, blwyddyn yr Arwisgiad yng Nghaernarfon. 

Dwi’n credu bod y Llywodraeth a’r Sefydliad Prydeinig wedi defnyddio’r Arwisgiad hyd eitha eu gallu a’u grym er mwyn rhoi caead ar biser cenedlaetholdeb. Fe rwygwyd y genedl – a bu rhwygiadau o fewn teuluoedd. Roedd Mam yn ffrindie efo gwraig rheolwr banc ar gwr y Maes yng Nghaernarfon. Ac fe oedd Mam a ffrindie erill gwraig y banc wedi derbyn gwahoddiad i’r fflat ar lawr ucha’r banc i wylio’r Arwisgiad. Fy Mam fy hun! Yn fwy dinistriol, bu rhwygiadau o fewn sefydliadau Cymreig a Chymraeg fel Gorsedd y Beirdd a’r Urdd. 

Ie, yr Urdd. Yn Aberystwyth y cynhaliwyd Prifwyl yr Urdd y flwyddyn honno, rhyw fis yn unig cyn yr Arwisgiad. Roedd y Tywysog Charles yn fyfyriwr 20 oed yn Aber ar y pryd. Treuliodd dymor yno yn dysgu peth Cymraeg. Ond cyn dod at hwnnw fe esboniodd Gerallt pam yr oedd o’n arbennig o awyddus i gystadlu am gadair yr Urdd yn 1969. 

Roeddwn i, hyd y medrwn i, eisie efelychu Dic Jones, yr Archdderwydd bellach. Roedd o wedi ennill cader yr Urdd bum gwaith. Pedair yn olynol. O 1956 ymlaen. Richard Jones. Richard Jones. Richard Jones. Richard Jones. Ac fe ofynnodd yr Urdd iddo fo beidio cystadlu yn yr Wyddgrug ym 1960 – i roi cyfle i rywun arall. Fe gytunodd Dic. Ond ddaru nhw ddim cofio gofyn iddo fo’r flwyddyn ddilynol. Fe wnaeth yntau gystadlu a’i hennill hi am y pumed tro! Fe luniwyd rheol wedyn na chai neb ennill mwy na thair cader yr Urdd.     

Roeddwn i – yn ffodus – wedi ei hennill hi’n ifanc ym 1962. Ac wedyn ym 1965. Yn 24 oed, Aber 1969 oedd fy nghyfle olaf i geisio cipio trydedd cader yr Urdd. Yr hyn ddaru apelio ata i yn fwy na dim oedd y testun – Cymru Heddiw. Oedd o’n ddewis annoeth o safbwynt yr Urdd! Ond mi oedd o’n destun da. Roedd o’r union destun i mi, a dweud y gwir, gan fy mod i wedi bod yn corddi cymaint am yr Arwisgiad ac yn meddwl a phendroni a phoeni am gyflwr Cymru.     

Dwi’n credu erbyn hyn, falle ein bod ni wedi gwneud gormod o’r Arwisgiad. (Mae hynny’n beth od i mi ei ddweud, mae’n siwr.) Fasa’n llawer gwell tasa ni wedi gadael iddyn nhw gael eu sioe.    

Ac eto... Byddai gadael iddyn nhw wedi bod yn groes i’r graen.    

Roedd angen dangos ein hochor. Oedd. 

A thestun cystadleuaeth y gadair yn apelio ato, a chynnwrf y gefnogaeth a’r gwrthwynebiad ymhlith y Cymry i’r Arwisgiad wedi ei gynhyrfu i’r byw, sut aeth o ati i lunio ei ddilyniant syfrdanol o gerddi. Yn wir, lle oedd o ar y pryd? A beth oedd o’n ei wneud? 

Roeddwn i erbyn hynny yn dysgu yn Ysgol Glyndwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ysgol breifat Gymraeg. Yr unig un o’i bath. ( Byddai un o’r disgyblion, geneth fach o Faesteg, yn dod i’r ysgol bob dydd mewn Rolls Royce yn cael ei yrru gan chauffeur.) Trefor Morgan – sylfaenydd cwmni yswiriant a buddsoddi Undeb – a’i wraig Gwyneth, a ariannodd y fenter, mewn hen blasty. Oedd rhieni’n fodlon talu oherwydd bod ’na bryder ynglyn â’r diffyg darpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal ’radeg honno. Roedd hi’n ysgol gynradd ac uwchradd. Ond daeth y cyfan i ben pan fu farw Trefor Morgan yn Ionawr 1970.    

Prun bynnag roeddwn i’n byw yn yr ysgol mewn stafell fechan – bwrdd, cader, gwely, wardrob. Ac yn fanno sgrifennwyd ‘Cymru Heddiw’, a ddaeth wedyn yn gnewyllyn y gyfrol Cerddi’r Cywilydd.    

Dwi ddim yn siwr pa gerdd ddaeth gynta. Ond mae hi’n un o ddwy, ‘Fy Ngwlad’ – Wylit, wylit, Lywelyn / Wylit waed pe gwelit hyn. Neu ‘Y Gwr Sydd Ar Y Gorwel’. Dwi ddim yn cofio gwneud y lleill, a dweud y gwir. Ond dwi’n cofio gwneud y ddau gywydd yna oherwydd bod rhywbeth anarferol ynglyn â’r broses o’u sgwennu nhw. Fe ddaethon nhw’n rhwydd. A tydi hynny byth braidd yn digwydd i mi. (Dim ond unwaith wedyn y digwyddodd o, yn achos awdl ‘Cilmeri’ yn 1982.) Y rheswm am hynny, mae’n siwr, oedd bod y cerddi hynny wedi ymffurfio eisoes yn fy mhen i, yn anymwybodol i mi fy hun. Pan eisteddais i lawr i sgwennu, wel, diawcs, fe lifodd y ddwy gerdd yn union fel pe bawn i’n cofnodi yn hytrach na chreu. 

Afraid dweud bod y cerddi hynod hynny wedi ennill cadair yr Urdd i Gerallt ym 1969.  

Dwi’n cofio pnawn y cadeirio a’r beirniad, T. Llew Jones, yn canmol. A dwi’n cofio pennawd mawr yn y papur, ‘Tywysog y Beirdd’.    

Drannoeth roedd y Tywysog Charles yn annerch o lwyfan yr Eisteddfod yn y Gymraeg. Wrth gwrs, fe gafodd groeso mawr gan dri chwarter y gynulleidfa. Ond fe fuo ’na gerdded allan hefyd. Roeddwn i’n un o’r rhai a gerddodd allan. Roedd ’na ddweud y drefn ofnadwy na fyddem ni wedi aros yn ein seddau i wrando ar y boi ifanc ’ma yn siarad Cymraeg mor wych.    

Wedyn, ar y nos Sadwrn, roedd Noson Lawen ym mhafiliwn y Steddfod. Roeddwn i a ’nghariad yn sefyll yn y cefnau yn ochr y llwyfan, reit gyferbyn â lle oedd Dafydd Iwan yn wynebu’r gynulleidfa. A dyma Dafydd yn dechrau dyfynnu Wylit, wylit, Lywelyn. Wel! Dwi erioed wedi gweld y ffasiwn ymateb. A tydi Dafydd Iwan ddim chwaith, medda fo. Roedd yr hanner o’r gynulleidfa a oedd agosaf at y llwyfan, sef y rhai hyn, a phwysigion yr Urdd, yn bwio a hisian a churo dwylo, nid mewn cymeradwyaeth ond er mwyn ceisio boddi llais Dafydd a geirie’r gerdd. Roedd hanner arall, iau, y gynulleidfa yn gefnogol. Daliodd Dafydd ati drwy’r cyfan i adrodd y gerdd.    

Roeddwn i wedi fy mrifo. Fe es i oddi yno. Y fi oedd eu prifardd nhw ddeuddydd ynghynt ac eto doedden nhw ddim eisie clywed y geirie. Fe greodd hynny ddrwgdeimlad. Waeth imi ddweud, yn blwmp ac yn blaen, na ddaru R. E. Griffith, Cyfarwyddwr yr Urdd, ddim siarad efo fi ar ôl hynny. Fe dramgwyddais.  

Roddodd neb well mynegiant na Gerallt i Gymru 1969. Ond beth sydd ganddo i’w ddweud am Gymru 2009? 

Enigma a pharadocs bod yn Gymro heddiw ydi bod cymaint o lwyddiannau wedi bod – arwyddion ffyrdd dwyieithog; y cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg, yn enwedig yn y De Ddwyrain; y Cynulliad. Ond ar yr un pryd rydan ni’n colli’r hen gadarnleoedd Cymraeg yn gyflym iawn, iawn, iawn.    

Rydan ni hefyd yn colli ein gafael ar yr iaith. Mae’r iaith ar y radio a’r teledu wedi mynd yn rhemp. Tydi hi ddim yn iaith. Mae’r holl so a really yn fy nhristáu i’r graddau nad oes gen i ddim amynedd gwylio S4C. A dweud y gwir dwi ddim yn credu bod gwylio’r Sianel yn gwneud lles i fy iechyd i gan fod ei bratiaith yn fy nghynhyrfu gymaint. Wnâi ddim dweud dim byd am Radio Cymru... 

Fu Gerallt erioed yn fardd cynhyrchiol. Oes ganddo fo’r geiriau i fynegi ei ofid am y Gymru bresennol neu a gafodd o ei dristáu y tu hwnt i eiriau? 

Naddo. Mae gen i’r geirie. Pan ofynnwyd imi sgwennu’r cywydd croeso ar gyfer Prifwyl 2005 cytunais, ar yr amod fy mod i’n cael dweud be oeddwn i eisie ei ddweud:

Ofer yw cynnal prifwyl,

ofer dal i gynnal gwyl

o gerdd a chyngerdd a chân

tra’r llif yn bwyta’r llwyfan.

Ofer yw rhygnu hefyd

am hil sydd yma o hyd.

Fe wnes i gais y llynedd am ysgoloriaeth gan yr Academi i gael cyfnod rhydd i sgwennu diweddariad, mewn ffordd, i Cerddi’r Cywilydd, gan fod cymaint o bethau wedi newid mewn deugain mlynedd. Ond, ar y munud olaf, fe newidiais fy meddwl a thynnu’r cais yn ôl. Doeddwn i ddim yn ddigon hyderus ohonof fy hun y byddwn i’n gallu cyflawni hynny.    

Fe gafodd Cerddi’r Cywilydd gymaint o ganmoliaeth fel bod gen i ofn pan ddaeth hi’n amser cyhoeddi Cilmeri a Cherddi Eraill. Mi oedd gen i wirioneddol ofn. Ond, diawcs, fe gafodd y gyfrol honno dderbyniad pur dda hefyd. Bellach mae gen i fwy byth o ofn. A dyfnhau mae’r ofn.    

Mae gen i ddigon o stwff ar gyfer cyfrol fechan, denau. A fasa’n well gen i eu cyhoeddi nhw tra dwi’n dal yma. Faswn i ddim eisie i neb arall fynd drwyddyn nhw.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Adolygiad - Ty Bernarda Alba

Ymlaen >

Zimbabwe - Pwy fydd yma 'mhen can mlynedd?