Thema dywyll Thema golau

Gerry Adams: Simsan yw’r Heddwch o Hyd

Bethan Kilfoil

Yn y cylchgrawn hwn yn Chwefror 2012 bu’r awdur yn trafod arwyddocâd gwleidyddol penderfyniad Prifysgol Boston i ryddhau casgliad o gyfweliadau gyda chyn-derfysgwyr i’r awdurdodau yn Ulster. Mewn dau ohonynt honnwyd mai Gerry Adams oedd wedi gorchymyn yr IRA i lofruddio mam i ddeg o blant. Dyna a arweiniodd at arestio’r gwleidydd yn ddiweddar.

Yn ôl Gerry Adams roedd cael ei holi gan y PSNI – Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon – ym mis Ebrill mewn cysylltiad â llofruddiaeth Jean McConville yn ymgais gan elynion gwleidyddol Sinn Féin i achosi niwed i obeithion y blaid yn y Weriniaeth ar drothwy’r etholiadau lleol ac Ewropeaidd. Roedd amseriad yr arést yn rhan o gynllwyn budr gan wrthwynebwyr Sinn Féin, meddai Mr Adams, i’w bardduo ef a’i blaid am ddigwyddiadau tywyll y gorffennol.

Wel os hynny, cynllwyn go aflwyddiannus ydoedd. A dweud y gwir, os oedd cynllwyn ar waith, bron na ellir amau mai Sinn Féin eu hunain oedd yn gyfrifol. Oherwydd yn dilyn y ddrama, ar i fyny yn y polau piniwn yn y Weriniaeth yr aeth Sinn Féin – gyda mwy o seddi cyngor ac Ewropeaidd nag erioed o fewn eu gafael.

Daeth y newyddion syfrdanol bod Gerry Adams wedi cael ei arestio ar ffurf datganiad newyddion moel gan y PSNI ar 30 Ebrill. Cyhoeddwyd bod gwr 65 oed i gael ei holi yn Antrim mewn cysylltiad â llofruddiaeth Jean McConville. O fewn awr roedd Gerry Adams yn gwneud cyfweliad teledu yn Dundalk, ar ei ffordd i Antrim, yn dweud mai o’i wirfodd yr oedd o’n mynd at yr heddlu. Esboniodd Mr Adams ei fod wedi dweud fis ynghynt ei fod yn fodlon cael ei holi. Amseriad yr arestio oedd yn amheus meddai.

Ond mewn gwirionedd doedd gan Gerry Adams ddim dewis ond cydsynio. Ni ddylai neb fod wedi synnu gormod pan gafodd ei arestio. Roedd y datblygiad dramatig hwnnw yn anochel ar ôl i’r PSNI gael gafael ar Dapiau Boston: casgliad o gyfweliadau gyda chyn-derfysgwyr gogledd Iwerddon a gafodd eu recordio fel rhan o brosiect hanes yng Ngholeg Boston yn UDA. Ar ôl brwydr yn y llysoedd trosglwyddwyd y tapiau i’r PSNI fel rhan o’u hymchwiliad i lofruddiaeth Jean McConville, gwraig weddw 37 oed a mam i ddeg o blant.



Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

I Grombil Cyfandir Pell; Antur Amlgyfrwng Gruff Rhys

Ymlaen >

Y Gymraeg yn Sir Gâr – cyfweliad gyda Cefin Campbell