Thema dywyll Thema golau

Giggs yn gosod y seiliau

erthygl-hydref-2018-1915-849 erthygl-hydref-2018-1915-849
Mae clywed galwad yn ymbil ar i bawb gyd-dynnu yn arwydd go bendant, yn amlach na pheidio, fod pethau wedi hen ddechrau dadfeilio o’n cwmpas. Byddai’n hawdd casglu, felly, fod gobeithion Ryan Giggs o greu argraff yn ei swydd fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn llai nag addawol pan gafodd ei benodi yn ôl ym mis Ionawr. Efallai nad oedd y penodiad wedi creu ton o wrthwynebiad ymhlith selogion y Wal Goch, ond rhaid cydnabod bod peth anniddigrwydd. Mae cyn-arwr Old Trafford wedi troedio llwybr gofalus wrth geisio darbwyllo ei wrthwynebwyr ei fod yn etifedd teilwng o goron Chris Coleman. Roedd ei benderfyniad i gadw Osian Roberts yn ei swydd yn gam allweddol wrth geisio tawelu ofnau’r amheuwyr. Mwy arwyddocaol, efallai, yw’r ffaith fod Albert Stuivenberg, cyn-hyfforddwr Manchester United yn ystod cyfnod Louis Van Gaal, wedi ymuno efo’r llys. Awgrym cryf fod y brenin newydd am weld newidiadau, boed hynny drwy esblygiad yn hytrach na chwyldro.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2018-1913-848

Enillydd y Cwis

Ymlaen >
erthygl-hydref-2018-1916-850

Rhodri a minnau – y ‘Welsh Morgans’