Thema dywyll Thema golau

Gogoniant y Gaeaf

Ond hyd yn oed pan nad ydi’r hinsawdd yn dwyn i gof Dr Zhivago (sef y rhan fwyaf o’r amser), dwi’n dal i lecio’r gaeaf. Yn un peth, mae’n gyfle i mi ddal i fyny efo cyfresi teledu na lwyddais i’w gwylio pan oedd y dyddiau yn hirach, a chefais fwynhad mawr o edrych ar benodau o Gwaith/Cartref a’r rhagorol Fresh Meat gefn-wrth-gefn ar Clic a 4oD.

Hefyd, gwelodd BBC4 yn dda i ddarlledu ail gyfres hirddisgwyliedig The Killing ym mis Tachwedd, gan y byddai darlledu’r gyfres Ddanaidd dywyll hon yn y gwanwyn neu’r haf wedi difetha’r awyrgylch yn llwyr. Mae yna rywbeth clyd a chyffrous am nosweithiau tywyll, yn enwedig wrth nesâu at y Nadolig efo’r goleuadau tymhorol, y siopa a’r prysurdeb, y lapio anrhegion a’r sgwennu cardiau – er bod mwy a mwy yn dewis peidio ag anfon cardiau Dolig erbyn hyn mewn ymgais i fod yn fwy gwyrdd a llai gwastraffus. Ond mae modd ailgylchu cardiau, a dwi’n mwynhau’r ddefod o’u hanfon a’u derbyn, ac eithrio pan fydd y cardiau’n rhai tila, rhad sy’n dangos fod y gyrwyr yn rhy gybyddlyd i brynu cardiau elusen. Os am brynu rhai elusen, fodd bynnag, dylid gwneud hynny o siopau elusen gan fod cyfran lawer uwch o’r elw yn mynd i’r elusennau nag sydd yna wrth brynu o siopau’r stryd fawr.

Eleni, wrth gwrs, bydd y Dirwasgiad yn taflu ei gysgod dros gyfnod sydd eisoes yn ddrud. Er, yn fy mhrofiad i, y bobol sy’n fwya tebygol o gwyno ei bod yn fain arnyn nhw ydi’r rhai da eu byd, tra mae pobol dlotach yn rhy falch i gyfadde hynny, gan fentro mynd i ddyled er mwyn sicrhau nad ydi eu plant yn cael cam. Tydi hi ddim yn help fod pobol ifanc y dyddiau yma yn rhoi gymaint o bwys ar ddillad ‘label’ – labeli fel Jack Wills a Hollister, lle mae gilet £98 yn costio mwy nag y byddai llond trol o ddillad Primark, lle mae’r Pwyliaid a’r Sipsiwn a’r fashionistas llai ffyslyd yn siopa yn Wrecsam.

O’r fan honno y draw crysau-polo Joel hefyd, gan nad ydi o’n poeni’r un iot am ddilyn y dorf, er iddo fynd trwy gyfnod maith tan yn ddiweddar o wrthod gwisgo unrhyw fath o dop heblaw am grysau-t camouflage. Ond o leia doedd y rheiny ddim yn ddillad a oedd wedi’u cynllunio i bluo plant ysgol a myfyrwyr. Wedi dweud hynny, llyncais innau’r heip designer yn ddiweddar hefyd, pan brynais ffrog ddu cheongsam o ddetholiad Gok Wan yn Sainsbury’s. Ond roedd hi’n rhesymol; roedd ‘angen’ ffrog newydd ar gyfer tymor y partïon arna’i, a dwi’n teimlo fel cymeriad allan o Mad Men ynddi pan dwi’n ei gwisgo efo fy sodlau platform porffor (M&S nid Jimmy Choo – dwi’n hogan fforddiol yn fy ffordd fy hun). Sôn am bartïon a chiniawau Dolig, dwi’n eu mwynhau ar y cyfan, ac eithrio’r do gwaith. Dwi bob amser yn gyrru yn un peth (esgus i adael yn fuan / dim awydd talu am dacsi adre) a heb deimlo’r un awydd i gymdeithasu efo ’nghydweithwyr ag y gwnawn ers talwm pan fyddwn yn gweithio efo criwiau’r Herald a S? Môr Môn. Ystrydeb neu beidio, efo ffrindiau a theulu dwi isio dathlu a threulio’r Nadolig. Nes i’r ewyllys da ddechrau pallu ac i bawb ddechrau cael llond bol ar ei gilydd, wrth gwrs... Prysured y flwyddyn newydd wedyn, ddeuda i!


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Lloegr yn deffro

Ymlaen >

Gwleidyddiaeth 2011: Carwyn ddi-ffrwt a Chymru swrth