Nid llywodraeth leol yw’r pwnc trafod difyrraf dan haul. Mae gwasanaethu ar Gyngor Gwynedd wedi dysgu hynny i mi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Bydd ambell un o’m cyfeillion yn ddigon ffôl i holi, o dro i dro, ‘Sut mae petha’n mynd ar y Cyngor?’, ac o fewn ychydig frawddegau o ateb, mae’r bywyd wedi dechrau llifo o’i wyneb. Dim ond eiliad o seibiant sydd ei angen cyn iddyn nhw ganfod esgus i droi’r sgwrs at bwnc arall, neu ddianc o ’nghrafangau. Gwn yn iawn, felly, fod perygl i mi eich colli wrth ddewis traethu am y pwnc arbennig yma. Ond mae gen i bob ffydd, hefyd, bod darllenwyr hynaws Barn yn perthyn i hil sydd â diddordeb ysol ym mhob agwedd o fywyd ein cenedl. Fe fentraf droi fy ngolygon at faes nad yw’n cael ei drafod yn helaeth yn y wasg, felly, sef cynllunio gwlad a thref.
Nid mympwy bersonol yn unig sydd wrth wraidd fy mhenderfyniad i roi peth sylw i’r pwnc. Mae Llywodraeth y Cynulliad ar fin cyrraedd diwedd ymgynghoriad ar newid deddfau cynllunio gwledig Cymru. O dan y drefn bresennol, mae’r Cynulliad yn gosod cyfyngiadau poenus o lym ar unrhyw ddatblygiadau newydd yng nghefn gwlad. Diben ymgynghoriad y Cynulliad yw gweld a oes cefnogaeth i’r syniad o lacio’r mymryn lleiaf erioed ar y polisi hwn, er mwyn hwyluso adeiladu tai fforddiadwy yn y Gymru wledig.
Ond cyn mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol, beth am gamu’n ôl rhyw ychydig? Oherwydd rwyf yn grediniol fod yn rhaid gosod y drefn gynllunio bresennol yn ei chyd-destun hanesyddol er mwyn deall pam ei bod yn bodoli ar ei ffurf bresennol. Dim ond ers 1947 mae’r cysyniad o ganiatâd cynllunio ar ei ffurf bresennol yn bodoli. Cyn hynny, roedd gan unrhyw un a feddai ddarn o dir yr hawl i godi adeilad arno. Y mae nifer helaeth o’r adeiladau a godwyd cyn yr Ail Ryfel Byd, felly, wedi eu codi heb ymyrraeth y wladwriaeth. Nid bod pob ty yn dy preifat, wrth reswm. Ers canrifoedd, mae cyrff cymdeithasol – yn eglwysi, elusennau, cyflogwyr, a hyd yn oed llywodraeth leol – wedi mynd ati i godi tai i gartrefu eraill. Ond erys y ffaith fod gan ddyn a oedd yn eiddo ar sgwaryn o dir a phentwr o frics yr hawl i godi ei gartref ei hun cyn 1947.
Dinistr y Luftwaffe a arweiniodd at basio’r deddfau cynllunio cyfoes cyntaf, mae’n bur debyg. Rhwygwyd tyllau anferth yn nghanol nifer o ddinasoedd mawr Lloegr, gan ddifa rhesi o adeiladau, ynghyd â rhoi terfyn ar fywydau miloedd o bobl gyffredin. Bu’r golled yn un anferth, ond daeth cyfle yn sgil y dinistr. Ers degawdau bu rhai yn dadlau bod angen trefn ar ddinasoedd Lloegr, a oedd wedi tyfu tu hwnt i bob rheolaeth yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Roedd y blynyddoedd ar ôl y rhyfel yn gyfle euraid i’r rhai a oedd yn dymuno gweld diwedd ar y twf anystywallt yma.
Law yn llaw â’r awydd i adfer y dinasoedd mawrion roedd awydd i warchod cefn gwlad rhag cael ei ddatblygu ymhellach. Daeth y galw am ddeddfau cynllunio yn bennaf o du y chwith, ac fe ellid olrhain eu hanes yn ôl i’r cyfnod rhamantaidd, a’r pryder fod y Loegr hynafol, wledig, wedi mynd yn ysglyfaeth i dwf di-baid diwydiant. Yn y dinasoedd, roedd diwydiant wedi pentyrru pobl ar bennau ei gilydd, blith drafflith. Ac yng nghefn gwlad, roedd y mwyngloddfeydd a’r ffatrïoedd wedi llygru’r hen wyrddni digyfnewid a oedd wedi sefyll ers cyn cof. Yr awydd i ailgodi Caersalem William Blake a oedd wrth wraidd llawer iawn o’r drafodaeth am gynllunio gwlad a thref yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Pa ots mai yn Llundain y treuliodd Blake y rhan fwyaf o’r oes, ac mai delfryd ramantaidd ddinesig yw’r Loegr sydd yn ymddangos yn ei gerdd enwocaf. Wedi’r rhyfel, ieuwyd y ddelfrydiaeth hon wrth gred fwy modern, a oedd yn dyrchafu’r wladwriaeth ganolog yn dduw hollalluog, a feddai’r gallu i ddatrys holl broblemau ei ddinasyddion.
A phriodas anghymarus rhwng y ddau feddylfryd hyn – y rhamantaidd-wledig a’r gwladwriaethol – sy’n gyrru’r broses bresennol o gynllunio datblygiadau yng nghefn gwlad Cymru. Wrth wraidd ein trefn gynllunio wledig y mae’r syniad bod cefn gwlad yn Ardd Eden di-dor sy’n rhaid ei gwarchod rhag diwydiannaeth estron. Y mae ein pentrefi gwledig yn cael eu hamgylchynu gan ffin ddatblygu. O fewn y ffin hon, y mae gan y cyngor yr hawl i ganiatáu datblygiadau. Tu allan i’r ffin, mae diktat llywodraeth ganolog yn dweud nad oes hawl codi yr un adeilad.
Wrth wraidd y cyfarwyddyd hwn y mae’r hen syniad rhamantaidd sy’n codi wal rhwng gwlad a thref, y naturiol a’r dynol. Meddylfryd trefol yw hwn, sy’n anwybyddu’r ffaith mai gweithle yw cefn gwlad, ac nid cae chwarae enfawr. Ychydig iawn o dirwedd Cymru heddiw sy’n adlewyrchu cyflwr naturiol, gwreiddiol, y wlad. Canlyniad proses ddiwydiannol i gynhyrchu bwyd yw’r erwau gleision y mae’r cynllunwyr trefol yn ymladd mor galed i’w gwarchod rhag y datblygwyr. Gwyddom i gyd fod bywyd yng nghefn gwlad Cymru yn galed aruthrol ar hyn o bryd. Dim ond gwaethygu’r caledi hwn y mae’r meddylfryd sy’n ceisio troi’r Gymru wledig yn amgueddfa.
Eithriadau prin yw’r datblygiadau sy’n cael eu caniatáu tu allan i’r ffin ddatblygu. Yn swyddogol, mae polisi’r llywodraeth yn cyfyngu datblygiadau yng nghefn gwlad i dai ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym myd amaeth neu goedwigaeth. A hyd yn oed wedyn, mae’n rhaid dangos nad oes modd i’r unigolyn wneud bywoliaeth oni bai ei fod yn byw ar y safle arbennig hwnnw cyn y gellid rhoi caniatâd. I bob pwrpas, mae polisi cynllunio cenedlaethol yn datgan mai dim ond mewn sefyllfaoedd eithriadol o anghyffredin y caiff unigolyn godi ty yng nghefn gwlad. Mae tai yn cael eu codi yn achlysurol, serch hynny. Ond, yn aml iawn, mae hyn yn digwydd yn groes i bolisi. Ac o weithredu’n groes i bolisi yn rhy aml, gall cyngor golli’r hawl i allu cymeradwyo ceisiadau cynllunio. Y mae llywodraeth ganolog yn dal yr afael dynnaf posibl ar y broses gynllunio, ac os yw awdurdod lleol yn gwingo’n ormodol, mae’r afael honno’n tynhau.
Gwyr unrhyw un sydd yn byw yng nghefn gwlad beth yw canlyniad hyn. Y mae’r stoc bresennol o dai yn crebachu. Mae prisiau’n codi, wrth i’r cyfleoedd economaidd leihau. Er gwaethaf ymdrechion yr awdurdodau lleol i sicrhau argaeledd tai, mae hyd yn oed y tai sy’n cael eu dynodi yn fforddiadwy ymhell o gyrraedd llawer iawn o bobl gyffredin. Mae’r pwysau i ymfudo o’r cymunedau gwledig yn cynyddu, ac mae dyfodol y cymunedau hynny yn edrych yn fwy tywyll gyda phob machlud.
Mae’r newidiadau sydd yn cael eu trafod gan y Cynulliad yn gam i’r cyfeiriad cywir, felly. Heb fynd i’ch diflasu â manylion, maent yn golygu llacio ryw ychydig ar y cyfyngiadau ar adeiladu yng nghefn gwlad. Bydd ystod ehangach o weithwyr gwledig yn gallu gwneud cais i godi ty yng nghefn gwlad, er mwyn eu galluogi i fyw a gweithio o fewn yr un gymuned. A phan mae un amaethwr yn pasio’r fferm ymlaen i’r genhedlaeth nesaf, mae posibl y bydd modd iddo gael codi ty ar y tir, lle y gall dreulio ei ymddeoliad. Camau bychain yw’r rhain, ond maent yn symud i’r cyfeiriad cywir.
Ond mae cwestiynau mwy sylfaenol i’w gofyn am y drefn gynllunio bresennol. Yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol, a yw hi’n dderbyniol bod llywodraeth ganolog yn rheoli gyda’r fath rym di-wyro? Ychydig iawn ohonom a fyddai’n dymuno mynd yn ôl i’r drefn a fodolai cyn 1947, ond a ydym ni wedi teithio yn rhy bell i’r cyfeiriad arall? Mae’r drefn bresennol wedi ei chynllunio i warchod ein hamgylchfyd rhag cael ei ddatblygu mewn modd amhriodol. Ond er mwyn sicrhau hyn, mae’r gyfundrefn yn tybio bod barn gweision sifil a swyddogion polisi bob tro yn rhagori ar farn unigolion.
A yw’r dybiaeth hon yn un iach? Onid yw hanes cynllunio gwlad a thref dros yr hanner canrif diwethaf yn dangos i ni y gall swyddogion cynllunio wneud llawer iawn mwy o niwed na datblygwyr preifat? Swyddogion cynllunio, wedi’r cyfan, a dreuliodd y chwedegau a’r saithdegau yn corlannu trigolion ein dinasoedd o fewn tyrau o fflatiau erchyll, ac ystadau enfawr a ddaeth i fod yn slymiau modern. Mae Unesco – adain ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig – yn rhybuddio y bydd rhannau o Lundain a Chaeredin a Chaerfaddon yn colli eu statws fel safleoedd treftadaeth y byd, oherwydd y modd y maent yn cael eu datblygu – yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol. Oes rhaid edrych ymhellach na Bae Caerdydd am enghraifft o ddatblygiad cyfoes Cymreig sy’n dyst i ddiffyg gweledigaeth swyddogion cynllunio?
Does dim amheuaeth fod y sefyllfa a fodolai cyn 1947 yn un fethedig. Gerlan, yn uchelfannau Bethesda, yw fy nghartref i erbyn hyn. Dyma bentref a godwyd heb unrhyw ystyriaethau strategol, gyda thai yn cael eu pentyrru ar hyd lethrau serth Dyffryn Ogwen er mwyn cartrefu’r miloedd a heidiodd i weithio yn Chwarel y Penrhyn yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn heddiw mae twf ddi-reol y pentref ganrif yn ôl yn destun cur pen i’r trigolion, sy’n gorfod gwasgu eu bywydau i mewn i strydoedd cul a luniwyd ar hap. Fyddai neb yn ei lawn bwyll yn dadlau bod angen mynd yn ôl i drefn lle mae pob penderfyniad cynllunio yn cael ei wneud gan dirfeddianwyr preifat. Ond wrth geisio gwneud iawn am fethiannau’r gorffennol, mae’r drefn gynllunio wedi symud yn llawer rhy bell i’r cyfeiriad arall.
Rhaid diolch i’r Cynulliad, felly, am lacio ryw ychydig ar y broses gynllunio yng Nghymru. Ond y mae llawer iawn mwy y gellid ei wneud i wella’r sefyllfa ymhellach. Os ydym o ddifri eisiau gweld cefn gwlad Cymru yn ffynnu, rhaid i ni ddangos bod gennym ffydd yn nhrigolion cefn gwlad i reoli eu bywydau eu hunain trwy wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

