Thema dywyll Thema golau

Gorymdaith annibyniaeth

erthygl-mehefin-2019-1973-907 erthygl-mehefin-2019-1973-907
‘Good afternoon. And it is a very good afternoon!’ Bloeddio’i chymeradwyaeth wnaeth y dorf ger Hen Lyfrgell Caerdydd i gyfarchiad Sion Jobbins ar ddiwrnod yr orymdaith dros annibyniaeth. Nid ar ddamwain y parodïodd eiriau Ron Davies drannoeth refferendwm 1997 pan gafodd Cymru’r profiad prin o orfoleddu. Er dathlu ugain mlynedd ers dechrau’r Cynulliad, gwas bach i San Steffan ydi llywodraeth Lafur Cymru o hyd. Diolch i Brexit (ysgrifennais i’r geiriau hynny?!) ac i raddau i fandaliaid murlun Cofiwch Dryweryn, rydan ni’n dechrau deffro i’r ffaith na wnaeth, ac na fydd San Steffan fyth yn blaenoriaethu Cymru. Roedd yr ymateb ar Stryd y Frenhines yn gynnes. Oedodd dau orymdeithiwr mewn gwisgoedd peintio slogan Cofiwch Dryweryn i egluro hanes Tryweryn wrth rai o’r siopwyr. Newidiodd un clerwr ei gân i ‘Calon Lân’ a llanwyd ei gap yn sydyn iawn! Gwasgodd yr orymdaith ei ffordd drwy’r Ais i wrando ar Sion Jobbins yn pwysleisio nad oes graddau o Gymreictod. Os oeddech chi’n rhan o’r orymdaith, roeddech chi’n Gymro. A dyna bawb o dan un faner yn uno i weiddi ‘Cymru rydd!’

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2019-1971-906

Pen-blwydd hapus, ond dim mwy o ddathlu

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2019-1974-908

Yn sgil lladd Lyra McKee