Grace Williams
The Parlour
Lyrita
Yn dilyn y recordiad diweddar o’r Missa Cambrensis gan Grace Williams, dyma ni nawr yn cael clywed ei hunig opera The Parlour trwy gyfrwng darllediad BBC o’r cynhyrchiad cyntaf yn 1966. Recordiwyd hwn yn yr hen Odeon yn Llandudno ac mae gwrando arno’n brofiad rhyfeddol o ‘fyw’ er gwaetha’r cyfyngiadau sain o gofio bod y recordiad bron yn drigain oed. Hon oedd y drydedd opera gan gyfansoddwr o Gymru i’r Cwmni Opera Cenedlaethol ei chyflwyno yng Nghaerdydd, yn dilyn dwy opera Arwel Hughes Menna (1953) a Serch yw’r Doctor (1960). Gyda’i libretto gan Saunders Lewis, caiff yr ail o’r rhain adfywiad dan arweiniad Iwan Teifion Davies yn Aberystwyth yr haf hwn, a diddorol hefyd fyddai cael gweld Y Parlwr eto ar lwyfan yn awr gan fod y recordiad yn tystio i allu theatraidd Grace Williams fel cyfansoddwr. Bu cynhyrchiad yn 1993 gan fyfyrwyr Coleg Cerdd a Drama Cymru yn damaid i aros pryd ond pam na all WNO gynnig golwg newydd inni ar waith gwerthfawr?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
