Dywedodd Gandhi mai gwir fesur unrhyw gymdeithas yw’r modd y mae hi’n trin ei gweiniaid, ac fe ddylai gosodiad o’r fath fod mor amlwg nes ei fod yn ystrydeb am y rhesymau gorau.
Ond ystyriwch bobol gydag anableddau, a myfyriwch ar y math o flwyddyn a gawson nhw eleni. Geoffrey Clark, ymgeisydd cyngor sir dros UKIP, yn cyhoeddi y dylai bod rheidrwydd ar rieni i erthylu babanod sydd â’r cyflyrau syndrom Down neu spina bifida, er mwyn arbed costau i’r Gwasanaeth Iechyd.
Y gwyddonydd Richard Dawkins yn ychwanegu ei geiniogwerth ar wefan gymdeithasol Twitter mewn neges oedd yn dweud mai peth anfoesol yw cadw baban sydd â syndrom Down, ac y dylai unrhyw fam sy’n cario plentyn efo’r cyflwr yma gael gwared o’r babi a thrio eto.
A dyna i chi Katie Hopkins, gynt o’r gyfres deledu The Apprentice, sydd bellach yn gwneud bywoliaeth o ddweud ar goedd y pethau hyllaf sy’n dod i’w meddwl. Fe ddywedodd hi ar Twitter am lefarydd Ty’r Cyffredin, ‘If women stopped mating with midgets like Bercow, we could ensure that the short gene was bred out of the human stock’. Does gan John Bercow ddim corachedd wrth gwrs, ond mae’r ensyniad ganddi bod angen cael gwared ar bobol sydd â’r cyflwr hwnnw yn hollol warthus, ynghyd â’i defnydd o’r gair ‘midget’, sydd yn air cwbwl sarhaus.
Yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb wedyn, a’i awgrym mewn e-bost wrth ddyn gyda’r cyflwr Asperger y dylai efallai ymatal rhag ymuno yn y drafodaeth gyhoeddus gan y gallai hynny greu problemau iddo.
A’r diweddaraf wrth gwrs, yr Arglwydd Freud, a gafodd ei hun mewn dwr poeth ar ôl awgrymu nad oedd cyflogwyr yn gweld pobl â rhai anableddau yn werth yr isafswm cyflog £6.50 yr awr.
Ar ben hyn oll, mae’r newidiadau i’r sustem fudd-dal, y dreth ystafell wely a’r monitro ac ailasesu llawdrwm ar ba mor anabl ydi pobol yn gwneud i’r rhai y mae eu bywydau yn ddigon anodd yn barod deimlo eu bod dan amheuaeth parhaus. Mae’n ymddangos mai’r unig beth sy’n tanio’r Adran Gwaith a Phensiynau y dyddiau yma ydi’r dybiaeth bod rhywun yn rhywle yn cael rhywbeth na ddylan’ nhw mo’i gael.
Rydw i wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn gwneud rhaglenni am anabledd, ac am bobol sy’n byw gyda chyflyrau corfforol neu feddyliol, neu sydd â phlant sydd wedi ei geni â chyflyrau o’r fath, ac yn aml iawn mae gen i gywilydd...
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
