Ond pwy yw’r Magdaleniaid? Merched ydy’r rhain a gafodd eu caethiwo mewn sefydliadau a adwaenid fel Golchdai Magdalen, am fod yn ‘ferched pechadurus’. Merched ifainc a ‘bechodd’ trwy gael babi cyn priodi oedd llawer ohonyn nhw. (Gwyddom bellach mai cael eu treisio gan eu tadau neu eu brodyr oedd hanes rhai o’r merched beichiog. Ond y merched a gosbwyd.) Cafodd eraill eu hanfon yno gan y llysoedd am droseddau fel dwyn, cardota, neu buteindra. Anfonwyd eraill yno gan eu teuluoedd am fod â nam meddyliol, neu am eu bod wedi ‘dwyn cywilydd’ ar y teulu mewn rhyw fodd. Weithiau roedd bod â chorff deniadol a fyddai’n debygol o arwain dynion ar gyfeiliorn yn esgus dros gaethiwo merch. Roedd llaweroedd ohonyn nhw’n wyryf ac yn gwbl ddiniwed mewn materion o’r fath.
Eu cosb oedd cyfnod, neu – yn achos y rhai mwyaf anffodus – oes gyfan mewn golchdy. Roedd sawl un yn Nulyn, ac yn ninasoedd eraill Iwerddon, a byddai ysbytai, carchardai a sefydliadau eraill – ac aelodau o’r cyhoedd – yn gyrru eu dillad budron i gael eu golchi gan y Magdaleniaid. Pa urdd bynnag o leianod a redai’r golchdy, y nhw fyddai’n elwa’n ariannol.
Mae nifer o gyn-Fagdaleniaid wedi sôn am yr amodau creulon o fewn y golchdai – golchdai a fodolai tan chwarter olaf yr ugeinfed ganrif. Roedd y gwaith golchi yn gorfforol drwm; roedd rhaid i’r merched weithio chwe diwrnod yr wythnos yn ddi-dâl ; yn aml doedden nhw ddim yn cael siarad â’i gilydd drwy’r dydd; a doedden nhw byth yn cael mynd allan o’r golchdy. Hyd yn oed petai aelod o’u teulu yn barod i’w derbyn yn ôl, neu petai ganddyn nhw’r cyfle neu’r gallu i ddod o hyd i waith yn y byd tu allan, byddai’r lleianod yn aml yn tanseilio eu hunanhyder nes peri i’r merched fod ofn gadael.
‘Roedden nhw’n dweud wrthon ni nad oedden ni’n werth dim byd,’ meddai un gyn-Fagdalen, ‘ac na fyddem ni byth o unrhyw werth i neb.’ Meddai un arall: ‘Caethweision bach oedden ni. Plant oedden ni’n mynd i mewn i’r golchdai, a chawson ni ddim addysg o gwbl gan y lleianod.’
Yn ôl un ffrind i mi, a gafodd ei magu ar fferm yn swydd Corc, roedd hi a merched ei chenhedlaeth yn byw mewn ofn y bydden nhw’n cael eu hanfon i Olchdy’r Magdaleniaid petai rhywun yn eu cyhuddo o fflyrtio’n ormodol, gwisgo’n bryfoclyd neu ymddwyn yn ‘anweddus’. Roedd yr obsesiwn gyda phechod rhywiol, yn enwedig ‘merched pechadurus’, yn rhemp drwy’r Eglwys Babyddol a’r gymdeithas ehangach.
Roedd gwreiddiau Golchdai’r Magdaleniaid yn y mudiad efengylaidd yn y 19eg ganrif. Ym Mhrydain a’r cyfandir yn ogystal ag yn Iwerddon, aed ati i achub merched a oedd wedi ‘cwympo’. Y bwriad gwreiddiol oedd rhoi lloches dros dro a gwaith i’r merched er mwyn eu helpu. Sefydlwyd y lloches gyntaf o’r fath yn Iwerddon yn 1767 – ar gyfer merched Protestannaidd.
Ar ôl rhyddfreinio’r Pabyddion yn 1829, rhoddwyd y sefydliadau hyn yn nwylo’r Eglwys Babyddol. Dros y blynyddoedd daethant yn sefydliadau mwy parhaol, yn debycach i garchar na lloches. Mynnodd y lleianod ar awyrgylch fynachaidd lem o dawelwch, ufudd-dod a llafur. A’r gwaith mwyaf cyffredin a phroffidiol oedd golchi. O hynny y datblygodd Golchdai Magdalen.
Er bod pobl yn gwybod am fodolaeth y Maggies, fel yr oeddent yn cael eu hadnabod ar lafar gwlad, ychydig iawn a wyddai pobl amdanynt. A llai fyth, tan yn gymharol ddiweddar, am fywydau truenus y merched. Wrth gwrs, doedd pobol ddim eisiau gwybod chwaith.
Y gwir amdani yw fod cymdeithas wedi cydsynio a chydweithredu â’r drefn: yn y rhan fwyaf o achosion, teuluoedd y merched oedd yn eu hanfon i’r golchdai. A’u teuluoedd oedd yn cefnu arnyn nhw, yn gwrthod ymweld â nhw, ac yn eu gadael nhw yno am flynyddoedd.
Ond yn 1993 digwyddodd rhywbeth a bigodd gydwybod cymdeithas. Fe benderfynodd lleianod y Sisters of Our Lady of Charity, a oedd yn rhedeg Golchdy Magdaleniaid yn Nulyn, werthu darn o dir i ddatblygwr. Canfuwyd bedd torfol, dienw, yn cynnwys gweddillion 155 o ferched yn y llecyn. Codwyd y gweddillion, a’u hamlosgi. Aed â’u lludw i fynwent Glasnevin, a’i roi mewn bedd torfol arall. Doedd gan y lleianod ddim enwau na manylion na chofnodion am 22 o’r merched, a dim ond ffugenwau crefyddol ar 23 arall.
Arswydwyd y cyhoedd gan y sgandal. Pwy oedd y merched yma a ystyriwyd mor ddi-nod fel bod y Sisters of Our Lady of Charity wedi eu hamddifadu hyd yn oed o’u henwau?
Sefydlwyd cymdeithas i geisio darganfod rhagor. Tyfodd yn ymgyrch i geisio ennill cyfiawnder i’r Magdaleniaid wrth i’r galwadau gynyddu am ymchwiliad i’r cam-drin ofnadwy a ddigwyddodd o fewn yr Eglwys Babyddol ac mewn sefydliadau fel yr ysgolion diwydiannol. Yn 2002 sefydlodd y llywodraeth ymchwiliad a arweiniodd at Adroddiad Ryan yn 2009 a argymhellodd gynllun iawndal i’r rhai a gafodd eu camdrin.
Ond fe wrthododd y llywodraeth gynnwys Golchdai’r Magdaleniaid o fewn y cynllun – am mai sefydliadau preifat oedden nhw nad oeddynt dan ofal y wladwriaeth. Ers 2002 mae’r mudiad Cyfiawnder i’r Magdaleniaid wedi bod yn dadlau bod y wladwriaeth yn gyfrifol. Wedi’r cyfan, cafodd rhai o’r merched eu hanfon i Olchdai’r Magdaleniaid gan y llysoedd. Gan hynny roedd dyletswydd ar y wladwriaeth i ofalu am les y merched yn y golchdai.
Mae’r Magdaleniaid yn dal i aros. Dydyn nhw ddim wedi cael ymddiheuriad gan y cyrff crefyddol na’r llywodraeth, dim iawndal na phensiwn am eu llafur yn y golchdai.
Ym mis Mehefin eleni fe roddodd y mudiad Cyfiawnder i’r Magdaleniaid dystiolaeth gerbron Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Boenydio. Yn sgil hynny galwodd y Cenhedloedd Unedig ar lywodraeth Iwerddon i sefydlu ymchwiliad i fethiant y wladwriaeth i warchod y merched a gafodd eu caethiwo yng Ngolchdai’r Magdaleniaid. Mae’r llywodraeth rwan wedi sefydlu pwyllgor (dan gadeiryddiaeth y Seneddwr, Dr Martin McAleese, gwr yr Arlywydd Mary McAleese) ac mae’r pedair urdd o leianod a oedd yn gyfrifol am y golchdai wedi cytuno i gydweithredu â’r ymchwiliad.
Felly, mae gobaith y bydd y Magdaleniaid – y rheini sy’n dal ar dir y byw – yn derbyn iawndal a chyfiawnder o’r diwedd. Mae’r Magdaleniaid wedi cael eu hanwybyddu cyhyd yn rhannol oherwydd bod Iwerddon gyfan wedi gwrthod cydnabod ei bod hi’r un mor euog â’r Eglwys Babyddol a’r lleianod am gam-drin y merched. Ac mae rhai o hyd sy’n mynnu nad oedd y cam-drin mor erchyll nac mor gyffredin ag y mae’r Magdaleniaid yn ei honni. Rhaid cofio, meddai’r ymwadwyr, ein bod yn sôn am amser a chyfnod gwahanol, gydag agweddau gwahanol, a bod y merched anffodus yma wedi cael lloches a chartref gan y lleianod pan nad oedd ganddyn nhw unlle arall i droi iddo. I’r Magdaleniaid, dengys yr agwedd honno bod rhaid brwydro o hyd yn erbyn y stigma a’r rhagfarn a’u hanfonodd nhw i’r golchdai melltigedig yn y lle cyntaf.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

