Arlunydd a elwid yn ‘Kandinsky Cymreig’ ac a ymlafniodd i greu dan gysgod afiechyd oedd James Dickson Innes, y gwelir arddangosfa o’i waith yng Nghaerdydd tan ganol mis Gorffennaf.
Dwylo i fyny pwy sy’ wedi laru braidd ar ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas, gyda hydoedd i fynd eto tan ei ben-blwydd ym mis Hydref? Os am ysbaid amheuthun oddi wrth y brolio di-ben-draw, beth am gip ar yrfa Cymro a esgeuluswyd?
Tan 20 Gorffennaf yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd ceir cyfle i brofi gwaith celf y ‘Kandinsky Cymreig’. Fel nifer o sêr roc mawr yr 20g., bu farw James Dickson Innes (1887–1914) yn 27 oed. O ran pryd a gwedd, yn ôl ei gyfoedion, ymdebygai i ddiafol a sant – a’i fentor mawr oedd y Cymro carismataidd Augustus John.
Y mae’r arddangosfa fendigedig Gogoniant y Gwyllt yn deyrnged deilwng i gyw-artist oedd yn dal ar ei brifiant ac a fu farw’n llawer rhy gynnar o’r diciâu.
Yr hyn sy’n taro’r gwyliwr fel gordd – yn enwedig newydd-ddyfodiaid i’w waith – yw ei feistrolaeth lwyr o liw a’i reddf gyda golau. A serch ei grwydro cyfandirol a’i ddylanwadau di-ri, tirlun Cymru – a’r Arenig Fawr – oedd ei awen barhaol.
Cyfleir trasiedi ei hanes trwy gyfrwng gwych ei gelf wrth iddo frwydro i wireddu’i weledigaeth dan gysgod angau. Mae’r arddangosfa arbennig hon yn ddathliad amserol iawn o yrfa artist a fu bron â mynd yn angof llwyr...
... Ailddeffrodd ei grwydro cyfandirol ei awydd i archwilio ei famwlad ymhellach, gan ddechrau carwriaeth â gogledd Cymru a barhaodd hyd ddiwedd ei oes. A thra aeth ei garwriaeth fawr ag Euphemia Lamb – ‘merch ei freuddwydion’, chwedl Augustus John – i’r gwellt, yr awgrym a geir yw i’r Arenig brofi’n ddihangfa iddo, gan lenwi’r gwacter emosiynol. Wrth i’w iechyd ddirywio daeth mynegiant swreal ac arallfydol i’w waith, wrth i’r lliwiau uwch-real efelychu Afallon bell.
Seren yr arddangosfa, heb os nac oni bai, yw’r clamp o lun Arenig, Gogledd Cymru (1913) a ddarluniwyd o berspectif Nant-ddu; dyma uchafbwynt ei astudiaethau taer o olau a thirlun...
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
