Thema dywyll Thema golau
Arswyd y Byd
Gweithred anghyfreithlon Comisiwn y Cynulliad
Dic yr Hendre

Gweithred anghyfreithlon Comisiwn y Cynulliad

Yng ngoleuni hyn, ni all rywun lai na gweld traha hynod ym mhenderfyniad Comisiwn y Cynulliad ddechrau Awst i roi’r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad. Pan fydd aelodau’r Senedd yn ailymgynnull yng Nghaerdydd, bwriad y Comisiwn yw parhau gyda chyfieithiadau o gyfraniadau Cymraeg i’r Saesneg, ond, yn groes i’r cynllun iaith presennol, ni fydd areithiau Saesneg yn cael eu cyfieithu.

Dywed y Comisiwn nad arbed arian sydd y tu ôl i’r newid ond, ar yr un gwynt, fe’n hysbysir y byddir yn arbed £250,000 mewn costau cyfieithu bob blwyddyn. Chwilio’n ofer y mae rhywun am eglurhad pellach.

Hyd yn hyn, y mae’r mudiad iaith wedi canolbwyntio ar feirniadu’r datganiad ar sail polisi, gan betruso ynglyn â’i arwyddocâd o safbwynt ymlyniad y Cynulliad tuag at greu Cymru ‘wirionedddol ddwyieithog’ yn unol â’r ddogfen Cymru’n Un. Y dimensiwn cyfreithiol sy’n cael fy sylw i. Y mae’r newid polisi hwn yn anghyfreithlon ac rwy’n ffyddiog y byddai’r Uchel Lys yn ei ddileu pe bai cais am adolygiad barnwrol.

Un o egwyddorion sylfaenol y gyfraith gyhoeddus yw fod yn rhaid i gorff cyhoeddus ddilyn proses arbennig cyn gwneud penderfyniad os ydyw wedi datgan yn gyhoeddus y bydd yn gwneud hynny. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir heb ddilyn y broses honno, yn arbennig felly os na cheisir egluro pam nad yw’r broses yn werth ei dilyn, yn cael ei ystyried yn benderfyniad afresymegol, ac felly’n un anghyfreithlon.

Yn y cyd-destun hwn, wele adran 6.10 o gynllun iaith y Cynulliad: ‘Ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r Cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg’. Y mae’r Bwrdd wedi cwyno’n gyhoeddus – ac mae i’w longyfarch am hynny – nad ymgynghorodd y Comisiwn ag ef cyn cyhoeddi’r newid sylfaenol hwn. Yn wir, nid yw’n ymddangos bod y Comisiwn wedi ymgynghori ag unrhyw un o gwbl y tu allan i’w aelodaeth ei hun. Yn hyn o beth, mae’r penderfyniad yn un cwbl ddiffygiol.

Wrth i ni fynd ati i greu cyfundrefn gyfreithiol newydd yma yng Nghymru, dichon fod dogn o naïfrwydd cyfreithiol y tu ôl i ymddygiad y Comisiwn – corff nad yw eto, efallai, wedi llawn sylweddoli nad cyfleuster gwleidyddol yw’r unig ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau ynglan â dyfodol y defnydd cyhoeddus o’r Gymraeg. Er mor annigonol yw’r ddeddfwriaeth iaith ar hyn o bryd, fe’i hatgyfnerthir, a diolch am hynny, gan egwyddorion craidd y mae’n rhaid i bob gorff cyhoeddus eu parchu.

Os un o amodau cael mwy o bwerau deddfu i Gymru yw darbwyllo San Steffan bod gan y Cymry ddealltwriaeth ddigonol o’r gyfraith gyhoeddus i’w galluogi i lywio eu dyfodol eu hunain, y mae angen deffro. Nid pethau i’w dethol a’u dewis à la carte yw ymrwymiadau cyhoeddus at y Gymraeg. Mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn i dynnu’r penderfyniad anghyfreithlon hwn yn ôl ar fyrder.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Arswyd y Byd

Ymlaen >

Dic yr Hendre