Thema dywyll Thema golau

Gweledigaeth Uffern

erthygl-tachwedd-2017-1822-721 erthygl-tachwedd-2017-1822-721
Yr ydym yn byw mewn oes o brysur bwyso. Eithriad bellach yw diwrnod lle nad yw troi at bapur newydd neu wrando ar fwletin newyddion yn dadlennu rhyw oferedd neu orffwylltra newydd wrth i gefnogwyr Brexit barhau i geisio ein cyflyru i feddwl ein bod ar drothwy gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. Ar ôl degawdau o wawdio eu gwrthwynebwyr a’u trin fel breuddwydwyr di-glem, gan baentio eu hunain fel pobl hirben a syber sy’n deall y byd ‘fel y mae o’, mae adain dde’r Blaid Geidwadol bellach wedi ymsuddo i raffu ystrydebau cadarnhaol am y dyfodol a hynny gyda lefel o arddeliad fyddai’n codi cywilydd ar yr Hari Krishna ifanc a welir yn gyson ar brif stryd ein prifddinas. Anwybyddwch y dystiolaeth anghyfleus o’n cwmpas. Daw popeth yn well! Nid oes dim a all ein rhwystro! Byddwch yn bositif! O goleddu’r cyfleoedd dirifedi sy’n codi wrth i Brydain adennill ei phriod le yn y byd, rydym yn sicr o lwyddo! Bydd y llew yn rhuo eto! Duw â ŵyr beth mae Boris, John Redwood a’r gweddill yn ei smygu, ond – argol – mae’n o’n stwff cryf.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-tachwedd-2017-1821-720

Rhifyn Tachwedd

Ymlaen >
erthygl-rhagfyr-2017-i-ionawr-2018-1824-726

Cofio Bobi Jones (1929–2017) – Cyfraniad aruthrol y sefydliad undyn