Thema dywyll Thema golau

Gwenoliaid a chywion y gog – gair am dwristiaeth

Merch ifanc yn edrych dros glogwyn ar draeth Barafundle Merch ifanc yn edrych dros glogwyn ar draeth Barafundle
Golygfa dro draeth Barafundle


‘Fedrwn ni ddim byw hebddyn nhw’. Dyna ydi’r ymateb cyson pan mae rhywun yn cwyno fod twristiaeth wedi mynd yn rhemp yn ein bröydd. Fedrwch chi ddim tramwyo’r ffyrdd ar benwythnos oherwydd hawl absoliwt sawl ymwelydd i adael ei fodur ble bynnag y myn. Fedrwch chi ddim mynd allan o’ch tŷ mewn sawl ardal oherwydd nifer yr ymwelwyr, ac, os medrwch chi fynd allan, does dim lle ichi gerdded ar y palmant. Fedrwch chi ddim hyd yn oed gael tŷ mewn sawl pentref glan môr, gan gymaint y galw am ail gartrefi a thai parhaol gan rai o’r tu allan. Fedrwch chi ddim rhentu ychwaith, am fod y tai fyddai’n cael eu rhentu bellach ar AirBNB. Eto, gwae chi os codwch lais yn beirniadu’r sefyllfa, neu pan mae’r Senedd neu Gyngor Sir yn gweithredu i geisio’i lleddfu. ‘Fedrwn ni ddim byw hebddyn nhw’ yw cri’r Jeremeiaid.

< Yn ôl
Gwleidydd yn annerch cefnogwyr

Tri etholiad, un neges

Ymlaen >
Portread o Laura McAllister

Yr hirdaith ers 1993 – holi Laura McAllister