Un o Lithfaen, Penrhyn Llŷn, oedd fy nhad, ac yn y fan honno y mae’r ffilm wedi ei lleoli. Sosialydd pybyr oedd o, ac yntau wedi gweithio ers pan oedd o’n llefnyn yn chwarel ithfaen Nant Gwrtheyrn, ac roedd gweld Margaret Thatcher a’i chiwed yn troi’r dŵr i’w melin eu hunain ar draul y werin bobl yn peri cryn ofid iddo. Roedd o bron yn 88 oed pan fuo fo farw yn 1995, a hynny rhyw gwta ddwy flynedd cyn i’r ‘tacla Toris ’ma’, chwedl yntau, gael eu disodli ar ôl deunaw mlynedd o fod mewn grym.
Gan na chafodd o fyw i weld y disodli hanesyddol hwnnw, teyrnged i ’nhad ydi’r ffilm, yn ogystal ag i genhedlaeth gyfan oedd dan yr argraff y byddai’r Wladwriaeth Les yn gofalu amdanynt ‘o’r crud i’r bedd’, petaen nhw ddim ond yn cadw at eu hochr nhw o’r fargen, gan dalu rhyw hyn a hyn yr wythnos o’u cyflogau tuag at stamp yswiriant cenedlaethol.
