Thema dywyll Thema golau

Gwireddu breuddwydion?

Rhan o ardd-bentref Rhiwbeina a gynlluniwyd gan T. Alwyn Lloyd a'r awdur Llion Wigley. Llun Rhiwbeina: No Swan So Fine / CC BY-SA 4.0

Mae un o’n deallusion ifanc mwyaf gwreiddiol, Llion Wigley, newydd gyhoeddi cyfrol sy’n trafod mentrau a syniadau iwtopaidd yng Nghymru’r 20g. Pa mor berthnasol yw’r syniadau hyn heddiw a beth yw’r cysylltiad rhwng delfrydau aruchel a realiti gwleidyddol? Bu BARN yn ei holi.

Nodwedd ar boblyddiaeth newydd y dde ledled y byd yw ei bod yn agored wrth‑ddeallusol. Ond nid oes gan y dde boblyddol unrhyw fonopoli ar wrth‑ddeallusiaeth. Weithiau gall yr angen i warchod ac adfer iaith leiafrifol greu hinsawdd sy’n wrthwynebus i ddeallusion ymroi i bethau’r meddwl – gweithredu’n ymarferol er mwyn ‘achub yr iaith’ yw’r angen, meddir. Yn ei dro, gall hynny greu diwylliant amddiffynnol sy’n ddibris o’r cysyniadol, y deallusol a’r arbrofol. Diniwed, mi wn, yw’r enghreifftiau a ganlyn, ond da cofio fel y dychanwyd yn y gorffennol ddilechdid Marcsaidd Gareth Miles yn Lol, ac fel yr aeth D. Tecwyn Lloyd ati i barodïo dull strwythurol newydd Bobi Jones o ddadansoddi llenyddiaeth Gymraeg; a beth oedd yr ymateb yn y pen draw i Euros Bowen, y mwyaf deallusol o’n beirdd?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Llyfr rysetiau fy mam

Ymlaen >

Ianwsa