Thema dywyll Thema golau

Gwlad y glo

Golygfa - Cwm Rhondda Fawr o Fynydd Pen Pych Golygfa - Cwm Rhondda Fawr o Fynydd Pen Pych
Mae’r enw Cwm Rhondda’n dwyllodrus gan ei fod, mewn gwirionedd, yn cynrychioli dau gwm, sef Rhondda Fawr a Rhondda Fach gyda bryniau Cefn y Rhondda yn eu rhannu. Yn Y Porth mae’r ddwy afon yn cwrdd â’i gilydd cyn llifo ymlaen i ymuno ag Afon Taf ym Mhontypridd. Tan chwarter olaf y ganrif ddiwethaf cysylltid y cwm â’r diwydiant glo, ond hyd at ganol y 19g. ardal wledig, anghysbell, hynod o brydferth ond prin iawn ei phoblogaeth ydoedd, ac felly y’i disgrifiwyd gan y teithiwr o Loegr, Benjamin Heath Malkin, yn dilyn ymweliad yn 1803. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ganrif roedd y darlun wedi newid yn ddramatig a chyn hir byddai’r boblogaeth yn cyrraedd ei hanterth o 168,000. Yng ngeiriau un o’r hen dribannau: ‘Dylifa bechgyn ffolion/ I’r Cwm o hyd yn gyson,/ O Wlad yr Haf hwy ddônt yn sgryd/ Fel ynfyd haid o ladron.’ Man cychwyn da i’ch taith fyddai Parc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod (CF37 2NP), ychydig filltiroedd i’r gogledd o Bontypridd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Golygfa o ardal Franciacorta, Lombardy

Cymharu poteli pinc

Ymlaen >
Bwyty The Loft, Canolfan Treftadaeth y Rhondda

Blasu bro