Gan nad oes unrhyw sicrwydd eto eleni y gwelwn ni’r haul yn taro’n boeth, dwi wedi penderfynu mai gwastraff amser ac egni yw hel meddyliau am hasls yr haf. Rydan ni’n cael cyn lleied ohono fo, felly mae’n bryd inni roi heibio’n pryderon a chanolbwyntio ar y positif. Fel mae’r Gymraes falch Janet Street-Porter yn ei ddweud yn ei llyfr newydd – mae bywyd weithiau jyst yn rhy ff***n fyr.
Felly rhowch gorau i boeni am y tywydd. Un ai mi fydd hi’n braf, neu fydd hi ddim. Ac os na fydd hi, mae ’na ffasiwn beth â chotia’ glaw trendi iawn ar werth ymhob twll, congl a chatalog Kath Kidston. A ph’run bynnag, does ’na ddim y fath beth â thywydd gwael, dim ond dillad anaddas.
Mae ’na ddewis gwych o wyliau cerddorol i’w cael yng Nghymru bob haf, ac mae bywyd yn sicr yn rhy fyr i gadw draw oherwydd y glaw. Sesiwn Fawr Dolgellau a gwyl Gardd Goll Glynllifon oedd uchafbwyntiau y llynedd i fi, ac roedd hi’n stido yn un ac yn crasu yn y llall. Roedd y ddwy gystal â’i gilydd am hwyl a cherddoriaeth ffantastig, ac fe ddawnsion ni yn y glaw yn un ac yn yr afon yn y llall.
Mae bywyd lot rhy fyr i boeni am gael y-corff-bicini-perffaith-mewn-pythefnos, ac mae’r un peth yn wir am ddod-o-hyd-i’r-wisg-nofio-berffaith-cyn-eich-gwyliau. Dydi burka ddim yn cyfri, gyda llaw. Bob haf, mae’r cylchgronau merched yn brolio pob math o ddeiets gwyrthiol sy’n mynd i’ch teneuo chi tu hwnt i bob adnabyddiaeth, a siwt nofio sy’n mynd i wneud i chi edrych a theimlo’n boeth (ystyr gyfoes). Coeliwch chi fi, dydi o byth yn mynd i ddigwydd, a does ’na ddim y fath ddilledyn yn bod. Mi fydd y ddeiet llus a phomigranets yn para deuddydd, ac mae hyd yn oed pobol denau yn teimlo’n dew lot fawr o’r amser, yn enwedig ar lan y môr.
Mae bywyd hefyd yn rhy fyr i smalio nad ydach chi’n gwylio Big Brother. Fel gwasgu plorod, ’dan ni i gyd yn ei wneud o weithiau ac yn eitha’ enjoio, tan i’r hunan-gasineb daro’n ddiweddarach. Maddeuwch i chi’ch hunan, a dywedwch yn uchel wrth bawb sy’n gwrando eich bod chi wrthi’n darllen Llyfr y Flwyddyn, yn cynganeddu yn eich cwsg ac yn meddu ar TGAU mewn Llydaweg. Ma’ celwydd coch, gwyrdd a gwyn yn oce, wyddoch chi.
Mae’n bywydau ni i gyd mewn peryg o fod yn rhy fyr i gwyno am ailgylchu. Oes, mae ishio mwy o fynadd nag arfer i’w wneud o yn yr haf, gan ei fod o’n drewi yn y gwres ac yn lluosogi’n rhyfeddol o ganlyniad i’r cartonau smwddis a photeli d?r di-ben-draw. Rhy fyr hefyd yw bywyd y blaned inni hedfan hwnt ac yma ar ein gwyliau a hynny er mwyn cael dangos ein hunain. Rydan ni i gyd isio gweld dipyn bach o’r byd o dro i dro wrth gwrs, ond dewis cyrchfan gwyliau ydi’r Olympics newydd, a phawb am y gorau i fynd i’r lle mwyaf anghysbell a phellennig, i wneud fawr mwy na thorheulo a chwyno am y bwyd yn amlach na pheidio.
Gellir dadlau wrth gwrs mai grawnwin surion yw’r uchod, gan rywun sy’n mynd dim pellach nag Ynys Enlli eto eleni. Ond o leia’ yn fan’no fydd dim rhaid imi boeni am gael corff bicini, gan fod y morloi yn ffeind iawn wrth bobol efo bol mawr a wisgars. Does ’na ddim teledu, a’r unig ailgylchu fydda i’n gorfod ’i wneud yn fan’no fydd cario’r bwcad ciachs i gornel bella’r cae heb sblashio ’nhrowsus.
Jyst gobeithio gawn ni dywydd ynte…
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

