Thema dywyll Thema golau

Gwyliau ‘adra’

erthygl-gorffennaf-2021-2247-1146 erthygl-gorffennaf-2021-2247-1146
Mae’r tymor gwyliau yn ei anterth a phawb ar dân isio dianc i rywle ar ôl bod yn sownd adra ers blwyddyn dda. Mae’r dewis o lefydd i fynd yn denau, wrth gwrs, gyda chyfyngiadau Covid a synnwyr cyffredin yn golygu bod rhaid gweithredu gyda phwyll a doethineb wrth benderfynu ar gyrchfan, yn enwedig a ninnau, o bosib, ar drothwy trydedd don. Mae yna bobol sy’n byw ar gyfer teithio a mynd ar wyliau, ac er mai hogan y filltir sgwâr ydw i ar y cyfan, mi fedra i, wrth reswm, gydymdeimlo â’r rhai sy’n gwingo isio gwyliau. Ond mae ‘gwyliau’ yn amlwg yn golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobol, a dwi’n sylwi fwyfwy fod y term staycation yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw wyliau nad oes angen taith mewn awyren i fynd arno. Dwi’n deall mai ffordd o wahaniaethu rhwng gwyliau ‘adra’ a gwyliau dramor ydi hyn, ond mae yna hen dinc eilradd yn perthyn i staycation, fel petai o’n gyfaddawd gwael ac yn rhywbeth na fyddai neb yn ei wneud o ddewis.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-gorffennaf-2021-2246-1145

Codiad yr Ehedydd

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Gorffennaf