Thema dywyll Thema golau

Gwyliau – o fath

erthygl-medi-2017-1799-700 erthygl-medi-2017-1799-700
Tydw i ddim yn or-hoff o’r haf. Nid yr haf ei hun fel y cyfryw, ond yn hytrach wyliau’r haf pan fo Joel adref o’r coleg. Mae’r saith wythnos hynny fel cwrs ymosod sy’n rhaid ei dramwyo’n ofalus rhag sathru ar ffrwydron. (Maddeuwch i mi os ydi hyn o lith yn swnio’n ailadroddus, ond dyma realiti ein bywyd ni.) Mi ddechreuodd pethau’n annisgwyl o dda. Pythefnos o heddwch a hwyliau da, a minnau wedi cael hel fy nhraed yn ddigon aml cyn hynny fel na theimlwn wedi fy nghaethiwo’n ormodol, yn enwedig â’r gyfres heddlu Wyddelig Red Rock yn ôl i’m diddanu gyda’r nosau. Ganol Mehefin roeddwn i a’r cymar wedi mwynhau wythnos ym Malta, ynys ac iddi hanes rhyfeddol, o longddrylliad yr Apostol Paul yn OC 58 i’r gwarchae a barodd iddi gael ei bomio’n fwy na nunlle arall yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda’r olygfa ddigymar o brifddinas hynafol Valletta o lannau Sliema...

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-medi-2017-1798-697

O Eden i Lleden

Ymlaen >
erthygl-1801-702

Barn