Cafodd GWENAN MARED flas ar y nofel gyfoes hon sy’n cyfuno rhamant, doniolwch, dwyster – a dwy iaith, fel yn nofel ddiwethaf yr awdur.
LOL
Gwenno Gwilym
tt. 270, Gwasg y Bwthyn, £12.00
Mae yna ‘buzz’ ynghylch ail nofel Gwenno Gwilym a hynny’n ddim syndod wedi llwyddiant ysgubol V + Fo, enillydd gwobr ffuglen Llyfr y Flwyddyn (2025) a Gwobr Barn y Bobl golwg360. Dewisais y gair ‘buzz’ yn fwriadol gan fod marchnata Gwasg y Bwthyn yn cyd‑fynd efo naws fodern y nofel – cafwyd clipiau o’r actor Leah Gaffey yn perfformio pytiau ohoni i fachu sylw, ynghyd â’r côd QR ar gyfer rhagflas oedd ar fatiau cwrw ar faes yr Eisteddfod. Y tu mewn i glawr atyniadol Gruffydd Siôn Ywain, cawn nofel fyrlymus wedi’i hysgrifennu yn y person cyntaf o safbwynt Lol (Olwen) ac yn cynnwys ensemble o gymeriadau difyr eraill. Mae’n nofel gyfoes, ddoniol iawn ond dwys o dan yr wyneb hefyd, gyda’i dwy iaith, y Gymraeg a’r Saesneg, yn ymblethu drwy’i gilydd. Ceir hefyd negeseuon testun a hashtags ac ati sy’n ddull arall o gyfathrebu, yn enwedig o safbwynt curadu delwedd ar‑lein o’ch bywyd, rhywbeth nad yw byth yn bell o feddwl Lol.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
