Thema dywyll Thema golau

Hanesydd digymar y bêl gron

Geraint H. Jenkins yng nghwmni’r Prifardd Llion Jones ac Elin Jones AS yn Ewros 2016 Geraint H. Jenkins yng nghwmni’r Prifardd Llion Jones ac Elin Jones AS yn Ewros 2016
Hanesydd digymar y bêl gron Pan ddywedodd John Evans y BBC yn Eisteddfod Genedlaethol 1977 mai i Geidwad Ismael y rhoddid y wobr am gyfrol ar hanes cewri’r bêl-droed yng Nghymru, dywedodd hefyd: ‘Brysied y dydd y cawn gyfrol arall ganddo’. Geraint H. Jenkins oedd Ceidwad Ismael, a, do, cafwyd myrdd o gyfrolau eraill ganddo, am ei briod feysydd academaidd ac am rai meysydd chwarae, y Vetch yn anad unlle. (Ni hoffai rygbi a’i rwysg.) Pan benderfynodd fynd o Ysgol Ardwyn Aberystwyth i astudio hanes yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe, ni wn ai enw da’r staff a gasglodd yr Athro Glanmor Williams ynghyd a’i denodd yno ynteu ei gariad cynnar at yr Elyrch. Cariad na phylodd oedd hwnnw. Bu ef ac Ann ei wraig a’r merched a’u teuluoedd gyda’r ffyddlonaf o’u cefnogwyr. Ac er pan godwyd cofgolofn i’r tywysog o fewnwr-chwith Ivor Allchurch y tu fa’s i’r Liberty yn y Morfa, nid âi Geraint i’w sedd heb rwbio esgidiau’i arwr rhyfeddol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Merched sy'n gwisgo burqa ger Mosg Glas ym Mazar-e Sharif

Apartheid ar sail rhyw yn Affganistan

Ymlaen >
Meleri Davies

Barddoniaeth, bywyd a balans – sgwrs â Meleri Davies