Thema dywyll Thema golau

Hardy a Rudy a thwyllwyr eraill

Marshaliaid UDA yn casglu ac yn dinistrio poteli gwin Rudi Kurniawan, Creedmoor, Texas, Rhagfyr 2015 Marshaliaid UDA yn casglu ac yn dinistrio poteli gwin Rudi Kurniawan, Creedmoor, Texas, Rhagfyr 2015
Ers i win ddechrau cael ei greu mae pobl hefyd wedi ei ffugio, neu o leiaf wedi ychwanegu cynhwysion ato. Gwnaethant hynny am sawl rheswm – er mwyn iddo gadw’n foddhaol ar fordeithiau pell, er enghraifft, neu er mwyn iddo flasu’n well pan oedd y deunydd crai’n debycach i finegr. Ond gadewch i ni ganolbwyntio y tro yma ar bobl sydd wedi ffugio gwin er budd ariannol. Bu dau achos tebyg iawn yn ystod y degawdau diwethaf, yn ymwneud â dau ddyn a welodd fod ffŵl cyfoethog a’i arian yn bethau hawdd eu gwahanu o roi abwyd iddo o win drud, prin. Yn y 1980au syfrdanwyd y byd gwin gan gasglwr o’r Almaen, a honnodd iddo ddod ar draws poteli o eiddo’r Arlywydd Thomas Jefferson. Roedd y ffugiwr, Hardy Rodenstock, wedi gwneud ei waith cartref – wedi cynnal ciniawau a swperau drudfawr i fyddigion y byd gwin ers blynyddoedd, a gweini’r peth go iawn yn amlach na pheidio i ennill ymddiriedaeth a pheri dryswch yn fwriadol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Carwyn Graves a chlawr llyfr Tir

Dyn a daear – holi Carwyn Graves

Ymlaen >
Gwilym Tudur

Cofio Gwilym Tudur