Cyflwyna’r awdur dadansoddiad cyfreithiol ei naws o statws y Gymraeg, a hynny wedi ei osod yng nghyd-destun statws ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd. Fe’n tywysir yn ddeheuig o’r athronyddol a’r cyffredinol, trwy gyfreitheg ryngwladol, cyfreitheg yr Undeb Ewropeaidd, ac yn y pendraw i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud a’r Gymraeg oddi fewn i’r cyd-destun Prydeinig - neu a bod yn gywir fel ag y nodir yn y gyfrol - ‘Y Gymraeg a Chyfraith Lloegr’.
Cychwynna’r awdur drwy geisio plethu datganiadau, neu wirebau hyd yn oed, am iaith a’i phwysigrwydd - ‘Cenedl Heb Iaith, Cenedl Heb Galon’, gyda damcaniaethau moesol a gwleidyddol. Tynn yn helaeth ar y traddodiad rhyddfrydol gan ddadlau fod gwaith yr athronydd rhyddfrydol Kymlicka yn cynnig fframwaith er mwyn cychwyn meddwl am ryddid ieithyddol. Amlinella gefnogaeth Kymlicka i hawliau diwylliannol i leiafrifoedd drwy sefydlu amddiffyniadau allanol. Ymhellach mae’n rhybuddio yn erbyn creu cyfyngiadau mewnol. Ceir trafodaeth ddifyr sy’n nodi rhai o’r anawsterau a geir wrth geisio gwahaniaethu rhwng yr hyn sy’n allanol ac yn fewnol - a hynny mewn cyd-destun ymarferol tu hwnt - sef yr alwad am addysg yn Saesneg gan riant mewn ardal Cymraeg naturiol. Mae’r awdur hefyd yn nodi rôl greiddiol y wladwriaeth ac yn benodol datblygiad y genedl wladwriaeth fel ffenomen a fyddai’n effeithio yn negyddol tu hwnt ar ieithoedd lleiafrifol.
Mae’r ddwy bennod ddilynol yn cyflwyno’r darllenydd i statws ieithoedd lleiafrifol oddi fewn i gyfreitheg ryngwladol a chyfreitheg Ewropeaidd. Mae sawl elfen yn nodweddu’r drafodaeth hon. Yr hyn sy’n taro dyn yn syth yw pa mor hygyrch yw’r ysgrifennu - does dim dwywaith fod cyflwyno amryfal elfennau cymhleth o gyfraith ryngwladol mewn modd eglur a syml yn gamp yn ei hun. Ond, mae’r drafodaeth hefyd yn tynnu sylw at y cyfleoedd a gynigir yn y cyd-destun rhyngwladol i wneud achos dros hawliau ieithyddol priodol i’r Gymraeg. I leygwr, fel awdur yr adolygiad hwn, mi roedd y gwahaniaethau rhwng y gwahanol siartrau, cytuniadau a chyfraith achos rhyngwladol yn niwl amhendant cyn darllen y gyfrol hon - ond bellach mae cryn dipyn mwy o oleuni - a hynny yn sgil ddadansoddiad gofalus, manwl a threiddgar Gwion Lewis.
Ond camp fawr y gyfrol dwi’n tybio yw’r bennod olaf sy’n perthnasoli y dimensiwn rhyngwladol i sefyllfa gyfreithiol y Gymraeg heddiw. Cyflwyna’r awdur ddadansoddiad clir a beirniadol o’r deddfau iaith a chyflawniadau Bwrdd yr Iaith. Unwaith yn rhagor nid rhethreg a sloganau ymgyrchu a geir, ond trafodaeth bwyllog, glir ac ystyrlon sy’n arwain Gwion Lewis (a dwi’n sicr iawn unrhyw ddarllenydd call) i’r casgliad mai’r hyn sydd angen yw Mesur Iaith Newydd. Mae’n nodi’n ddiamwys fod angen i’r Mesur gael ei drafod a’i basio gan Senedd Cymru gyda’r Hawl i’r Gymraeg yn seiliedig ar y datganiad: ‘Y mae gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, cyn belled a bo hynny’n rhesymol dan yr amgylchiadau.’ Datganiad syml ar sawl wedd, ond datganiad mae Lewis yn profi’n glir a fyddai’n creu newid sylfaenol yn statws y Gymraeg.
Does dim dwywaith gen i na fydd y gyfrol yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r drafodaeth, a tybed oes ambell elfen o’r gwaith y gellir ei ddatblygu ymhellach mewn cyhoeddiadau eraill?
Gan gychwyn efallai gyda’r elfen leia' bwysig ar sawl wedd - yr elfen athronyddol. Efallai fy mod innau yn hel atgofion braf am seminarau athroniaeth wleidyddol yn ormodol (!), ond rwy’n si?r y gellir ehangu ar y seiliau athronyddol - boed hynny trwy ystyried un o gewri meddwl athronyddol am y Gymraeg - J.R. Jones a/neu ystyried dadansoddiad mwy eang o ddatblygiad y genedl wladwriaeth ag elfennau Marcsaidd o’r feirniadaeth honno.
Yn fwy ymarferol efallai, mi roedd dyn yn synnu cymaint o’r achosion am hawliau ieithyddol a ddygwyd, gan bobl nad oedd yn siarad yr iaith leiafrifol ac oedd yn chwilio am hawliau i arddel yr iaith fwyafrifol wladwriaethol. Tybed oes lle am fwy o ystyriaeth a dadansoddiad ar y pwnc hwn - yn enwedig o ystyried y trafodaethau a fu wrth drafod sefydlu’r hawl i bob rhiant dderbyn addysg Cymraeg i’w plant?
Tybed hefyd oes lle i drafod pa fath o fframwaith cyfreithiol sydd fwya’ addas ar gyfer sicrhau gweithredu egwyddorion deddfwriaeth ieithyddol? O brofiad rwy’ wedi gweld rheoleiddiwr mewn maes arall yn gyndyn iawn i ddefnyddio p?er i erlyn unigolion trwy’r llysoedd troseddol am dresmasu yn erbyn y gyfraith; ond wedi cael y p?er i ddirwyo unigolion a/neu gyrff, maent wedi gwneud defnydd helaeth ac effeithiol o’r grym honno. Efallai bod lle i ystyried addasrwydd modelau rheoleiddio yng nghyd-destun cyfraith newydd hefyd?
Syniadau yn unig yw’r rhain ond syniadau wedi eu hysbrydoli wedi darllen y gyfrol feistrolgar hon. Fel un sydd wedi, ar wahanol adegau, fod yn rhan o ymgyrchoedd y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd ers canol yr 80au, mae gweld cyfrol sy’n cynnig gobaith newydd a dadansoddiad clir a grymus yn destun calondid mawr - ac os yw’r gwleidyddion yn ei ddarllen - mi dybiaf fod gobaith gwirioneddol am fesur iaith call hefyd. Diolch yn fawr Gwion Lewis - am dy gymwynas fawr ag achos y Gymraeg.
Hawl i'r Gymraeg
Gwion Lewis
Y Lolfa
£7.95, 128 tt
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

