Thema dywyll Thema golau

Heb ddŵr, heb ddim

Ynys Enlli

Wnaeth mynd ar wyliau pecyn, gweddol resymol eu prisiau i fyfyrwyr tlawd, i gyrchfannau twristaidd ar gyfandir Ewrop erioed apelio ataf i na ’nghroen golau. Yn hafau ein hugeiniau, heb ofalon na chyfrifoldebau, âi ’nghyfeillesau i ynysoedd Sbaen neu Roeg tra byddai’n rheitiach gen i anelu am ‘ddirgelwch llwydlas’ Ynys Enlli. Yn sgil hynny, dros y blynyddoedd, daeth cario dŵr mewn poteli mawr dros y Swnt a phecynnu digon o fwyd i gynnal rhywun am wythnos neu ddwy ar fynsan o graig anghysbell yn dipyn o grefft. Daeth defnyddio a gwagio toiled compost yn ail natur, a datblygwyd technegau celfydd i olchi llestri ac ymolchi gyda dim ond un tegellaid o ddŵr cynnes, cwpan a dysgl blastig (a byw heb gawod na bath). Ie, heb os, un o’r gwersi pwysicaf a ddysga pob ymwelydd ag Enlli yw sut i ddefnyddio dŵr yn gynnil – ac yn bwysicach na hynny, gwerthfawrogi dŵr iach i’w yfed.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Baz a Razaullah

Ymlaen >

Dewis enwau