Thema dywyll Thema golau

Heb Ferched (ymroddgar), heb Wawr

Rhai o aelodau cangen Merched y Wawr Dyffryn Ceiriog ar ymweliad â Sycharth, Gorffennaf 2022 Rhai o aelodau cangen Merched y Wawr Dyffryn Ceiriog ar ymweliad â Sycharth, Gorffennaf 2022
Mae fy nwy flynedd (a’m hail stint) fel swyddog cangen Dyffryn Ceiriog o Ferched y Wawr ar fin dod i ben ym mis Mehefin, a fedra i ddim smalio na fydd hynny’n rhyddhad. Nid ’mod arna’i eisiau troi rhywun yn erbyn cymryd y swydd – i’r gwrthwyneb – ond fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi ymgymryd â swydd ysgrifennydd unrhyw fudiad, hon ydi’r un sy’n golygu’r mwyaf o waith fel arfer. Does ryfedd felly mai dyma’r swydd anoddaf i’w llenwi bob blwyddyn. Mae’n wir fod y trysorydd wedi dweud y byddai hi’n fodlon ffeirio petai rhywun yn bod yn drysorydd yn ei lle hi, ond hyd yn hyn does neb wedi dod i’r adwy i wneud y swydd honno chwaith. Ac er i’r swyddogion presennol erfyn am rywun i’w holynu a rhybuddio y bydd yn rhaid dirwyn y gangen i ben os na fydd unrhyw un yn gwirfoddoli, y cyfan a geir ydi tawelwch llethol a rhesi o lygaid gwydrog yn rhythu arnom fel defaid.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Parus minor - titw Siapan

Ar eich ôl chi

Ymlaen >
Gareth 'Parc'

Cofio Gareth ‘Parc’