Thema dywyll Thema golau

Hepian fel Homer

erthygl-mawrth-2021-2195-1095 erthygl-mawrth-2021-2195-1095
Lled debyg mai dynwared Llywodraeth y Deyrnas Unedig a wnaeth Llywodraeth Cymru wrth roi Diwylliant a Chwaraeon yng ngofal un Gweinidog – nage, yng ngofal un Dirprwy-weinidog. Ers tair blynedd i fis Tachwedd diwethaf bu’r materion hyn yng ngofal yr Arglwydd Elis-Thomas, a fu ers tro braidd yn gyndyn ei ganmoliaeth i nifer o sefydliadau diwylliannol y Gymraeg (pryd ddiwethaf y clywsoch ganddo air da am y Brifwyl?), ac na fu erioed, am a wn i, yn flaenllaw fel cefnogwr brwd i’r campau ar lawr gwlad (er inni ei weld yn cymryd ei le, fel y dylsai, gyda swyddogion Undeb Rygbi Cymru yn un o eisteddleoedd Stadiwm y Principality ar brynhawniau rhyngwladol). Ddiwedd Ionawr, i warchod dyfodol rhai campau rhag difethdod yn ystod y pandemig, cyhoeddodd y Dirprwy-weinidog ei fod yn neilltuo £17.7 miliwn i chwaraeon yng Nghymru. Roedd mwy na thri-chwarter yr arian i fynd i’r Undeb Rygbi. Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru filiwn a hanner o bunnau, un rhan o ddeuddeg yr hyn a roddwyd i rygbi.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mawrth-2021-2193-1093

Tir Cymru a thir y dychymyg

Ymlaen >
erthygl-mawrth-2021-2196-1096

Milgi, milgi!