Mae’r protestiadau diweddar ym Morocco yn fynegiant o anniddigrwydd cyffredinol gyda sawl agwedd ar fywyd y wlad. Yma mae un sy’n ymchwilio i esblygiad hunaniaeth genedlaethol yno dros y blynyddoedd diwethaf yn edrych ar ran cerddoriaeth gyfoes a phêl‑droed yn ymddangosiad to ifanc sy’n gynyddol feirniadol o’r drefn.
Yn niwedd Medi a dechrau Hydref lledaenodd protestiadau a therfysgoedd lu ar draws Morocco, gan esgor ar wrthdaro treisgar â’r heddlu. Wrth imi ysgrifennu roedd tri phrotestiwr wedi’u saethu’n farw – gan luoedd diogelwch fe honnir – a thros 500 wedi’u harestio, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Mudiad GenZ 212 sydd y tu ôl i’r protestiadau hyn – gyda ‘GenZ’yn cyfeirio at y genhedlaeth ohonom a anwyd rhwng tua 1997 a 2012, yn fras, a ‘212’yn cyfeirio at gôd ffôn rhyngwladol Morocco (er, yn eironig ddigon, mai ar blatfform gemau a ffrydio Discord y mae’r protestwyr yn cyfathrebu). Fel sy’n wir, heb orgyffredinoli, am wrthdystiadau cyffelyb sydd wedi codi o blith y to ifanc yn Nepal, Periw, Madagascar a gwledydd eraill ers mis Medi, mae’r protestiadau â’u gwraidd yn anniddigrwydd yr ifanc ynghylch anghyfartaledd cymdeithasol. Dyma wledydd lle mae’r genhedlaeth hon yn ffurfio cyfran uchel o’r boblogaeth: ym Morocco, er enghraifft, mae oddeutu hanner y boblogaeth o dan 30 oed.
‘Ysbytai, nid stadiymau’ yw’r gri sy’n rhoi min unigryw ar y protestiadau ym Morocco. Hynny am fod y wladwriaeth yn tywallt $5bn honedig ar isadeiledd ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2030, a gynhelir ar y cyd â Sbaen a Phortiwgal. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys adeiladu (ar gryn frys) beth fydd stadiwm bêl‑droed fwya’r byd, yn dal 115,000 o bobl. Mae’r gwrthdystwyr yn cymharu hynny â’r hyn a welant fel diffyg buddsoddi enbyd mewn gofal iechyd. Yn 2023, dim ond 7.8 meddyg oedd ar gyfer bob 10,000 o bobl – ymhell islaw argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o 23.
Er iddo ildio llawer o’i bwerau i’r deddfwrfeydd a chyflwyno diwygiadau democrataidd yn 2011, galw ar y Brenin, Mohammed VI, i ymyrryd y mae’r protestwyr. Ymhlith eu gofynion, yn ogystal â buddsoddi mewn gofal iechyd, mae addysg o safon am ddim, tai gweddus a fforddiadwy, gwell trafnidiaeth gyhoeddus, gwell cyflogau a phensiynau, a chyfleoedd gwaith i’r ifanc mewn gwlad lle mae diweithdra yn eu plith yn uchel.
Maen nhw’n galw hefyd am ddisodli’r Ffrangeg gyda’r Saesneg fel ail iaith swyddogol (ar ôl Arabeg). Mae hynny’n rhan o don gyffredinol o gwestiynu hunaniaeth genedlaethol ymhlith Morociaid ifanc. Mi fûm i yn y wlad ym mis Chwefror eleni fel rhan o brosiect ymchwil yn ystod hanner cyntaf fy ngradd, i edrych ar y modd y gellir olrhain esblygiad hunaniaeth genedlaethol drwy edrych ar y diwydiant cerddoriaeth. Mae modd sôn am gyfres o ddigwyddiadau fu’n rhan o’r esblygiad hwn ers tro’r ganrif.
Y man cychwyn – er mai un symbolaidd ydoedd yn anad dim – oedd esgyniad Mohammed VI i’r orsedd yn 1999. Dyma a osododd y seiliau ar gyfer yr ‘adfywiad’ (Nayda) cerddorol a welwyd wedi hynny. Dan anogaeth a nawdd y brenin, sefydlwyd gorsafoedd radio preifat ar gyfer pobl ifanc a gwyliau cerddorol cenedlaethol, gan roi llwyfan cenedlaethol i grwpiau ‘beiddgar’, y tu hwnt i’r ‘diwylliant swyddogol’. Ar yr un pryd, daeth buddsoddiad newydd mewn gwyliau sy’n darparu ar gyfer twristiaid yn bennaf – Jazzablanca yn Casablanca neu Ŵyl Gerdd Gnawa a’r Byd yn Essaouira.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd yr ysbryd herfeiddiol hwn ymhlith ieuenctid yn parhau, gyda’r awydd am ryddid mynegiant dilyffethair yn ei amlygu’i hun trwy gerddoriaeth. Ym mis Chwefror 2003 carcharwyd 14 o gerddorion a dilynwyr bandiau metel trwm yn Casablanca am fynd yn groes i erthygl 267–5 y côd penydiol (tanseilio Mwslemiaeth Sunni, y frenhiniaeth, neu’r diriogaeth) yn eu cerddoriaeth a’u hymarweddiad ‘Satanaidd’. Esgorodd hynny ar brotestiadau lu a barodd am ddyddiau, digwyddiad a gaiff ei adnabod fel L’affaire. Yn y pen draw, rhyddhawyd y 14 ar gais y Brenin. Roedd ef ar y pryd, ers digwyddiadau 9/11 ddwy flynedd cyn hynny, wrthi’n gosod agenda gwrthderfysgaeth, gan hyrwyddo cenedl fwy ‘goddefgar’ ac aml‑ffydd, yn ogystal â hyrwyddo Mwslemiaeth fwy cymedrol yn wyneb ffwndamentaliaeth.
Yn sgil L’affaire, gwelwyd ychwaneg eto o awch i herio’r diwylliant swyddogol wrth i gerddorion ifanc archwilio themâu fel rhywioldeb a thlodi, a chanu yn Saesneg a Ffrangeg yn ogystal â Darija (y dafodiaith o’r Arabeg a siaredir yno). Daeth cynulleidfaoedd yn fwyfwy agored i gerddoriaeth o’r fath hefyd, a’r ddau beth yn cyfrannu at greu gofodau newydd i drafod hunaniaeth genedlaethol a chrefyddol.
Credir mai’r protestiadau GenZ 212 diweddar yw’r mwyaf eang yn ddaearyddol yn y wlad ers y gwrthryfeloedd hynny yn 2011 oedd yn rhan o’r Gwanwyn Arabaidd. Lledaenodd Mudiad yr 20fed o Chwefror ar draws 70 o ddinasoedd y wlad, gyda’r gofynion yn fwy gwleidyddol eu natur bryd hynny. Esgorodd y mudiad hwnnw ar ddiwygiadau cyfansoddiadol o bwys. Y tu hwnt i’r rhai democrataidd a grybwyllwyd uchod, un o’r prif newidiadau oedd rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i Tamazight – yr iaith a siaredir gan gymunedau Amazigh (Berberaidd) – a chreu sefydliad brenhinol er mwyn diogelu a hybu’r diwylliant. Gyda hynny, yn symbolaidd o leiaf, daeth mwy o gydnabyddiaeth o le’r cymunedau Amazigh hyn oddi mewn i’r ‘genedl’.
Fe ffrwydrodd y cwestiwn am hunaniaeth eto adeg Cwpan Pêl‑droed y Byd Qatar 2022, pan lwyddodd y tîm cenedlaethol i gyrraedd y rownd gyn‑derfynol. Gwelwyd hwy’n dathlu eu hunaniaeth Arabaidd yn falch, gan chwifio baner Palestina ar ddiwedd yr ornest yn erbyn Sbaen, a bu cyfres o lwyddiannau i chwaraewyr Amazigh yn gyfle i ddathlu hunaniaeth luosog Morocco.
Y tîm hwn – Llewod yr Atlas – oedd y cyntaf o gyfandir Affrica i gyrraedd cyn belled yng Nghwpan y Byd. Ers degawdau, mae golygwedd Morocco wedi bod tuag Ewrop – fe geisiodd y wlad ymuno â’r Comisiwn Ewropeaidd (fel ag yr oedd) yn 1987. Ond yn gynyddol, mae hi wedi edrych tuag Affrica gan ymuno â’r Undeb Affricanaidd yn 2017, ac mae cydnabyddiaeth gynyddol ymysg Morociaid o’u hunaniaeth Affricanaidd. Daw hynny i’r amlwg yn y diwydiant cerddoriaeth hefyd. Yn ystod fy ymweliad â’r wlad, clywais lawer am bartneriaethau diwylliannol newydd gyda gwledydd eraill y cyfandir, prosiectau fel Afrikanya, Africa Art Lines, a Visa for Music – ‘mae’n dod yn thema,’ medd un sy’n curadu gweithgarwch yr American Arts Center yn Casablanca.
Cydnabod a dathlu lluosogrwydd yr hunaniaeth genedlaethol – ‘cenedlaetholdeb amgen’, chwedl yr ysgolhaig Nadia Kiwan – yw’r datblygiad mwyaf nodedig yma. Un prawf o hynny oedd y nyth cacwn a gododd yr asgellwr Soufiane Boufal ar ôl i Morocco guro Sbaen yn Qatar, pan ddywedodd fod y fuddugoliaeth yn un i’r ‘Morociaid, i’r Arabiaid, a’r Mwslimiaid’, gan hepgor yr Amazigh a’r Affricaniaid, er enghraifft.
Mae ymdeimlad cryf o hunaniaeth yn rhan o brotestiadau GenZ 212, fel sy’n elfen greiddiol o’r hanes hir o brotestio ymhlith Morociaid ifainc. Mae’n werth nodi mai galw ar y Brenin, symbol o sefydlogrwydd ac undod cenedlaethol, i weithredu y maen nhw. Fel mewn gêm bêl‑droed, mae dwy ochr – dau dîm, os mynnwch – i hunaniaeth genedlaethol: yr hyn a deimlir gartref, a’r hyn a gyflwynir oddi cartref. Paratoi i wynebu sylw’r byd y mae Morocco pan ddaw Cwpan y Byd ymhen pum mlynedd, digwyddiad sydd eisoes yn peri cryn ymrafael rhwng y ddwy ochr.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyda chymorth Cronfa Dyfed Elis‑Gruffydd sy’n galluogi BARN i ddatblygu cyfranwyr a newyddiadurwyr ifanc.
